Paul Dummett yn ystyried chwarae dros Gymru unwaith eto

  • Cyhoeddwyd
Paul DummettFfynhonnell y llun, Rex Features

Mae'r amddiffynnwr Paul Dummett wedi dweud ei fod yn awyddus i chwarae dros Gymru eto, dair blynedd ers ei ymddangosiad diwethaf.

Dywedodd Dummett wrth cyn-reolwr y tîm cenedlaethol, Chris Coleman y llynedd nad oedd eisiau chwarae pêl-droed rhyngwladol am y tro.

Ond mae amddiffynnwr Newcastle nawr yn bwriadu cynnal trafodaethau am ei sefyllfa gyda'r rheolwr presennol Ryan Giggs, cyn y gemau yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon a Denmarc yng Nghynghrair y Cenhedloedd fis nesaf.

Dim ond dau gap sydd gan y chwaraewr 26 oed - y ddau mewn gemau cyfeillgar yn erbyn Yr Iseldiroedd - gyda Coleman yn tueddu i ddewis Ben Davies neu Neil Taylor ar ochr chwith yr amddiffyn.

"Nes i ddim wir gael llawer o gyfle i chwarae dros Gymru, ond mae'n rhywbeth 'dwi'n awyddus i wneud," meddai Dummett, sy'n gymwys ar gyfer y tîm cenedlaethol drwy ei daid o Gaerffili.

"Roeddwn i'n mynd yn y gorffennol, ond roedd o'n gyfnod lle doeddwn i ddim yn chwarae ac yn cael anafiadau."

Gwrthododd Dummett gynnig i ymuno â charfan gyntaf Giggs ar gyfer Cwpan China ym mis Mawrth, gan ddweud ei fod eisiau canolbwyntio ar gadw Newcastle yn yr Uwch Gynghrair.

Ond mae nawr wedi dweud ei fod yn hapus i ailystyried ei ddyfodol rhyngwladol.

"Mae gan reolwyr newydd syniadau gwahanol ac mae chwaraewyr gwahanol yn chwarae, felly yn amlwg mae'n gyfnod newydd i Gymru nawr," meddai.