Dryswch ynglŷn â dyfodol Dummet i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Paul DummettFfynhonnell y llun, Rex Features

Mae argaeledd amddiffynnwr Cymru, Paul Dummett wedi achosi dryswch yn dilyn cyhoeddiad gan ei glwb Newcastle nad ydyw wedi ymddeol o bêl-droed rhyngwladol.

Er nad yw Dummett wedi chwarae gêm gystadleuol i'w wlad mae wedi chwarae dwywaith i Gymru mewn gemau cyfeillgar.

Wrth gyhoeddi carfan Cymru ddydd Iau dywedodd Chris Coleman nad oedd Dummett wedi ei gynnwys am ei fod wedi dweud nad oedd eisiau chwarae pêl- droed rhyngwladol mwyach.

"Dydy o ddim eisiau chwarae pêl-droed rhyngwladol, sy'n siom o'n safbwynt ni," meddai Coleman.

"Ond mae wedi gwneud y penderfyniad yna, ac mae'n rhaid i ni barchu hynny."

Ond daeth cadarnhad ddydd Gwener gan glwb pêl-droed Newcastle nad oedd Dummett wedi cyhoeddi ei ymddeoliad o bêl-droed rhyngwladol a'i fod yn "ymdrechu i fod yn ffit."

Mewn datganiad dywedodd y clwb:

"Yn dilyn ymgyrch galed gyda Newcastle ble roedd yn chwarae tra mewn poen, mae Dummett yn awyddus i orffwyso a threulio amser gyda'i deulu a'i ffrindiau er mwyn sicrhau y bydd yn barod ar gyfer ymgyrch Newcastle yn ôl yn yr Uwch Gynghrair tymor nesaf.

"Tydi Dummett heb gau'r drws ar ei yrfa ryngwladol ac mae'n gobeithio cynrychioli'r dreigiau eto yn y dyfodol".

'Angen bod yn amyneddgar'

Mae Coleman wedi cyhoeddi carfan o 26 chwaraewr ar gyfer y gwersyll hyfforddi cyn gêm Serbia fis nesaf, sy'n cynnwys saith chwaraewr sydd heb ennill cap rhyngwladol.

"Mae'n rhaid i ni weithio gyda'r garfan yma o chwaraewyr, y garfan sydd eisiau cynrychioli Cymru," meddai Coleman.

Roedd Dummett yn rhan o'r garfan fu yn y gwersyll hyfforddi cyn Euro 2016, ond ni chafodd ei ddewis ar gyfer y garfan derfynol o 23 chwaraewr.

Nid yw wedi chwarae o gwbl yn yr ymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd 2018.

Dywedodd Coleman nad yw wedi siarad â Dummett yn uniongyrchol am y penderfyniad, ac mai asiant y chwaraewr wnaeth gysylltu ag ef.

"Weithiau mae'n rhaid i chi fod yn amyneddgar, yn enwedig am fod y tîm sydd gennym ni ar y funud wedi bod mor llwyddiannus," ychwanegodd Coleman.

"Mae'n siom oherwydd ei fod yn chwaraewr da."