Chwe blynedd o garchar am gyfres o droseddau hiliol
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 23 oed wedi cael dedfryd o chwe blynedd o garchar ar ôl paentio cyfres o swasticas a sloganau ar nifer o adeiladau yng Nghasnewydd.
Fe gyfaddefodd Austin Ross yn Llys y Goron Casnewydd ei fod wedi rhoi neuadd Seiri Rhyddion ac ysgol yn y ddinas ar dân a phaentio graffiti mewn sawl man.
Roedd eisoes wedi pledio'n euog i naw cyhuddiad o achosi difrod i eiddo gyda chymhelliad hiliol, pedwar cyhuddiad o aflonyddu gyda chymhelliad hiliol a dau gyhuddiad o gynnau tân yn fwriadol.
Dywedodd Heddlu Gwent fod y troseddau yn rhai difrifol oedd wedi peri gofid i bobl yr ardal.
Roedd y safleoedd eraill a gafodd eu targedu dros gyfnod o fis ym mis Mai yn cynnwys campws Prifysgol De Cymru, Theatr Glan yr Afon, Ysgol Gynradd Maendy, Ysgol Uwchradd Basaleg, swyddfa Gwasanaeth Prawf Gwent ac Eglwys y Bedyddwyr Bethel.
Roedd rhai o'r sloganau'n cyfeirio at y grŵp asgell-dde eithafol SRN (System Resistance Network) ac eraill yn galw am ryddhau un o sylfaenwyr yr EDL (English Defence League), Tommy Robinson o'r carchar,
Hefyd fe wnaeth Ross osod dwsinau o bosteri'r SRN o gwmpas y ddinas gyda negeseuon yn cynnwys "Hitler did nothing wrong" a "Hitler was right".
Doedd dim arwydd o emosiwn ganddo wrth iddo gael ei ddedfrydu.
Dywedodd y Ditectif Uwch Arolygydd gyda Heddlu Gwent, Nicholas Wilkie bod y troseddau yn rhai "difrifol iawn, ac yn naturiol fe wnaeth achosi gofid a thrallod drwy'r gymuned gyfan".
Ychwanegodd bod "dim lle i droseddau casineb" yn y rhanbarth, a'u bod yn parhau i fabwysiadu polisi o "ddim goddefgarwch tuag at y math yma o droseddu" er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd.