Atal llywodraethwr Carchar Berwyn o'i waith dros dro

  • Cyhoeddwyd
Russell TrentFfynhonnell y llun, Y Weinyddiaeth Gyfiawnder
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Russell Trent ei benodi yn llywodraethwr Carchar y Berwyn yn 2015

Mae llywodraethwr Carchar Berwyn, Wrecsam wedi cael ei atal dros dro o'i waith.

Cafodd Russell Trent ei benodi'n llywodraethwr ar y carchar Categori C yn 2015, cyn iddo agor yn swyddogol ym mis Chwefror 2017.

Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth carchardai: "Mae Mr Trent wedi cael ei atal o'r gwaith am y tro, yn unol â'n gweithdrefn safonol, tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal i honiadau yn ei erbyn."

Mae Heddlu'r Gogledd wedi datgan nad ydynt yn rhan o'r ymchwiliad.

Nid oes mwy o fanylion am natur yr honiadau ar hyn o bryd.

Fe wnaeth Carchar Berwyn gostio £250m i'w adeiladu ac mae lle i fwy na 2,000 o garcharorion.

Yn y gorffennol mae nifer o wleidyddion, gan gynnwys Michael Gove, wedi canmol agwedd gadarnhaol Mr Trent tuag at adsefydlu carcharorion.

Ffynhonnell y llun, NICK DANN