Oedi nes mis Hydref cyn agor ysgol ardal yng Ngheredigion
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Ceredigion wedi cyhoeddi y bydd oedi cyn agor campws newydd ysgol ardal Henry Richard yn Nhregaron, prosiect gwerth £5m.
Cafodd ysgolion cynradd Llanddewi Brefi a Thregaron eu cau ar ddiwedd y tymor ysgol diwethaf, gyda'r gobaith y byddai'r ysgol ardal newydd yn barod ar eu cyfer ym mis Medi.
Bydd disgyblion oed cynradd bellach yn symud i'w safle newydd ar 1 Hydref 2018, ac oherwydd hynny yn gorfod dychwelyd i'w hen ysgolion am y tro.
Mae disgwyl i'r disgyblion uwchradd fynychu'r campws newydd, sef hen safle Ysgol Uwchradd Tregaron.
'Gwerth yr aros'
Dywedodd y cynghorydd Catherine Hughes, sydd hefyd yn gadeirydd ar fwrdd llywodraethwyr Ysgol Henry Richard: "Mae'n bosib bod rhai rhieni yn teimlo'n siomedig, a bod y llywodraethwyr hefyd wedi cael siom.
"Fel llywodraethwyr, mae'n rhaid i ni wneud y gorau o'r sefyllfa sydd ohoni er mwyn lles y plant. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod popeth ar y safle newydd yn iawn nawr, ac rydyn ni'n anelu am 1 Hydref."
Cafodd cyfarfod brys o'r llywodraethwyr ei gynnal nos Lun, gyda swyddogion Cyngor Ceredigion.
"Mis bach yw mis Medi, bydd yr ysgol yn cau ddydd Iau 27 Medi, ac fe fydd popeth yn cael ei symud draw i'r campws newydd erbyn y dydd Llun," meddai Ms Hughes.
Yn ôl Gwion James, tad i dri oedd yn edrych ymlaen at fynychu'r ysgol newydd ym mis Medi, bydd y gwaith adeiladu "werth aros amdano".
"Y peth pwysig i gofio yw bod y buddsoddiad yma wedi cael ei wneud i mewn i addysg yr ardal. Bydd y buddsoddiad yma yn y cyfleusterau yn golygu y bydd modd i'r athrawon yn Ysgol Henry Richard barhau i ddatblygu'r ddarpariaeth i'r dyfodol," meddai.
Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Ceredigion: "Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi derbyn gwybodaeth gan y contractwr sy'n adeiladu estyniad cynradd Henry Richard na fydd y gwaith adeiladu wedi'i gwblhau erbyn 4 Medi 2018.
"Bydd disgyblion oed cynradd bellach yn symud i'w safle newydd ar 1 Hydref 2018. Bydd disgyblion oed cynradd Ysgol Henry Richard yn dychwelyd i gampysau cynradd Llanddewi a Thregaron yn y cyfamser."