Cynlluniau i ailddatblygu safle hen ladd-dy ar Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
hen safle Cig MonFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Safle hen ladd-dy Cig Môn ar Stad Ddiwydiannol Bryn Cefni

Gallai safle hen ladd-dy ar Ynys Môn gael ei ailddatblygu yn unedau busnes newydd gyda'r potensial i greu 50 o swyddi.

Fe gaeodd lladd-dy Cig Môn yn Llangefni yn 2006 gyda 100 o swyddi'n cael eu colli, ac ers hynny mae'r safle wedi bod yn wag.

Ond mae cynlluniau newydd wedi'u cyflwyno fyddai'n gweld wyth uned ddiwydiannol newydd a maes parcio yn cael eu creu.

Mae disgwyl i swyddogion Cyngor Môn asesu'r cais gan Castle Property Investment Holdings Ltd yn dilyn gwyliau'r haf.

Cynlluniau pellach

Yn ôl y datblygwyr, maen nhw'n disgwyl i'r unedau newydd gael eu defnyddio gan fusnesau bach a newydd.

Fe ddywedon nhw hefyd y byddai'r swyddi newydd yn hybu "ffyniant cymdeithasol ac amgylcheddol yr ardal".

Nid dyma'r unig ddatblygiad arfaethedig yn Stad Ddiwydiannol Bryn Cefni ar hyn o bryd.

Mae Cyngor Môn eisoes wedi cyflwyno cynlluniau i ddymchwel hen weithfeydd cemegol Eastman Peboc ac adeiladu unedau busnes yno.

Yn eu datganiad i gyd-fynd â'r cynlluniau hynny dywedodd y cyngor ei bod yn bwrw ati er mwyn manteisio ar brosiectau datblygu eraill fel Wylfa Newydd.