Ymateb cymysg i gynllun cymorth i ffermwyr wedi sychder
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau na fydd ffermwyr yn cael eu taliadau blynyddol yn gynnar eleni wedi tywydd poeth yr haf, ond fe fydd benthyciad newydd ar gael i fusnesau sydd heb gael eu taliadau ar y diwrnod cyntaf un, 1 Rhagfyr.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths y byddai talu rhagdaliadau ym mis Hydref i rai ffermwyr yn unig "yn creu sefyllfa annheg", a fyddai'r cam ddim o reidrwydd "yn lleddfu effeithiau tymor byr na hir y tywydd eithriadol".
Mae undeb NFU Cymru wedi croesawu'r cyhoeddiad - sy'n cynnwys rhoi £500,000 i dair elusen ffermio i helpu busnesau ymdopi yn ystod y misoedd nesaf - gan ddweud y bydd y camau'n helpu ffermwyr i baratoi ar gyfer y gaeaf wedi cyfnod heriol.
Ond yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru, mae'r methiant i ddilyn esiampl Llywodraeth Yr Alban "yn awgrymu nad ydy Llywodraeth Cymru'n deall goblygiadau tywydd eithriadol y 12 mis diwethaf i ffermwyr".
'Yn dal yn bryderus'
Roedd yr undebau amaeth wedi gofyn i'r Ms Griffiths a fyddai modd i amaethwyr gael y taliadau yn gynt na'r arfer oherwydd problemau tyfu porthiant yn y tywydd sych diweddar.
Roedd yna gyfarfod brys yn ystod y Sioe Fawr yn Llanelwedd i drafod pryderon ynghylch bwydo anifeiliaid a dyfrio cnydau oherwydd y gwres.
Mae disgwyl y bydd tua 90% o fusnesau fferm yng Nghymru yn derbyn eu taliadau sylfaenol ar 1 Ragfyr, ac fe fydd y gweddill yn gallu ceisio am y benthyciad newydd i dalu costau byw yn y tymor byr.
Wrth gyhoeddi manylion y cymorth newydd, dywedodd Ms Griffiths ei bod yn "dal yn bryderus ynghylch y goblygiadau o ran costau a faint o borthiant sydd ar gael i fusnesau fferm yn y tymor canolig a hir, er bod y sefyllfa wedi gwella.
"Rwy'n sylweddoli bod Undebau'r Ffermwyr wedi bod yn galw arnon ni i dalu taliadau BPS 2018 yn gynt," dywedodd.
"Yn fy marn i, ni fyddai hynny'n arbennig o ddefnyddiol gan na fydd talu rhagdaliadau ym mis Hydref yn lleddfu effeithiau tymor byr na hir y tywydd eithriadol, a byddai'n creu anghydraddoldeb rhwng busnesau gan y byddai rhai'n derbyn taliad BPS ac eraill ddim.
"Mae undebau'r ffermwyr eu hunain yn cydnabod y byddai'n creu sefyllfa annheg a mwy o broblemau. Felly byddai cynnig benthyciad yn ateb tecach a gwell i'r amgylchiadau anodd sy'n wynebu busnesau fferm eleni.
Mae NFU Cymru wedi croesawu'r cyhoeddiad. Dywedodd eu llywydd, John Davies bod nifer o'r camau roedden nhw wedi gofyn amdanyn nhw yn y cyfarfod brys yn Llanelwedd eisoes wedi eu cyflwyno.
"Mae mesurau heddiw'n ychwanegu lefel arall o gefnogaeth a rhywfaint o sicrwydd a fydd yn helpu ffermwyr i baratoi ar gyfer y gaeaf i ddod, wedi cyfnod heriol i'r diwydiant."
Ychwanegodd y bydd "cyflwyno cynllun benthyca am y tro cyntaf yng Nghymru yn helpu'r rheiny sy'n aros i'w ceisiadau taliadau gael eu cymeradwyo" ond mae'n galw am i'r broses ymgeisio fod "mor syml â phosib".
Ond mae Undeb Amaethwyr Cymru yn fwy beirniadol, gan fynegi siom na fydd benthyciadau ar gael o fis Hydref ymlaen fel sy'n digwydd yn Yr Alban.
Dywedodd eu llywydd, Glyn Roberts: "Erbyn y bydd taliadau a benthyciadau ar gael yng Nghymru, mae yna berygl gwirioneddol y bydd taliadau a benthyciadau mwy cynnar mewn gwledydd eraill yn golygu bod porthiant hollbwysig wedi eu tynnu o'r farchnad a phrisiau wedi codi.
"Mae'r oedi o ran trefnu cyfarfod brys... a'r penderfyniad yma yn codi pryderon gwirioneddol nad ydy Llywodraeth Cymru'n deall pa mor ddifrifol ydy goblygiadau'r tywydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Awst 2018
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2018