Dynes achubodd hogyn eisiau gwella diogelwch Gŵyr

  • Cyhoeddwyd
Arfordir Gwyr

Mae dynes yn galw am well arwyddion diogelwch ar ôl iddi achub bywyd hogyn ar arfordir Gŵyr yn ddiweddar.

Roedd Ceri Saunders, mam 45 oed o Abertawe, yn mynd a'i chi am dro o Rosili i Broughton Bay pan welodd hi blentyn naw oed mewn perygl yn y dŵr.

Fe aeth ei mab 14 oed i geisio helpu'r bachgen, ond roedd hi'n rhy anodd i'w gyrraedd felly roedd rhaid i Ms Saunders fynd i mewn ei hun.

Credai Ms Saunders nad oes digon o arwyddion yn rhybuddio pobl o beryglon yr arfordir, ac o beth i'w wneud mewn achos o argyfwng.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ms Saunders yn benderfynol o weld mwy o arwyddion diogelwch yn cael eu codi ar hyd yr arfordir

Ychwanegodd nad oedd hi eisiau sylw wedi'r digwyddiad, ond yn hytrach am sicrhau fod gwell arwyddion diogelwch yn cael eu codi yn yr ardal.

Roedd Ms Saunders yn nofio'n gystadleuol fel plentyn, ac wedi gwneud rywfaint o hyfforddiant fel achubwr bywyd.

Pan gyrhaeddodd hi'r bachgen, sylweddolodd fod y cerrynt yn rhy gryf i nofio i'r lan, ac felly'r peth gorau i'w wneud oedd arnofio a pheidio cynhyrfu.

Er nad yw Ms Saunders yn siŵr am ba hyd yr oedd y ddau yn y dŵr, fe ddaeth criw Gwylwyr y Glannau i'w hachub yn y pendraw.

Cafodd y ddau eu cludo i'r ysbyty, ac mae'r ddau bellach wedi ei rhyddhau

Roedd rhieni'r bechgyn ar y traeth yn ystod y digwyddiad ac yn "falch" iawn o weithredoedd Ms Saunders a chriw Gwylwyr y Glannau.