Geraint Thomas: 'Dylai pob beiciwr orfod gwisgo helmed'

  • Cyhoeddwyd
Geraint ThomasFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae Geraint Thomas yn dweud bod dyluniad helmedau wedi gwella'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf

Mae pencampwr y Tour de France, Geraint Thomas wedi galw am wneud helmedau yn "orfodol" i bob beiciwr yn y DU.

Dywedodd y Cymro wrth y Sunday Times Magazine ei fod "wastad" yn gwisgo helmed, a'i fod yn teimlo y dylai eraill wneud yr un peth.

"Dwi wedi gwisgo helmed yn fwy aml na dwi wedi rhoi gwregys ymlaen," meddai.

Ychwanegodd beiciwr Team Sky y dylai beicwyr a gyrwyr hefyd "rannu'r ffordd" yn hytrach na gweld ei gilydd fel "gelynion".

'Dim rheswm peidio'

Mae helmedau yn bwnc dadleuol pan mae'n dod at feicio, gyda Llywodraeth y DU yn dweud yn 2017 eu bod yn ystyried newid y gyfraith i orfodi seiclwyr i'w defnyddio.

Ond mae rhai sefydliadau yn erbyn mesur o'r fath, gydag Cycling UK yn dweud nad oes "cyfiawnhad dros orfodi pobl i wisgo helmedau" ac y gallai hynny arwain at lai o bobl yn beicio.

"Beth bynnag, dyw hi dal ddim yn glir pa mor effeithiol yw helmedau," meddai'r elusen.

Mae'r cyn-seiclwr proffesiynol Chris Boardman hefyd wedi dweud y byddai'n gwrthwynebu cyfraith o'r fath.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Dyw hi ddim yn orfodol i feicwyr wisgo helmed ar hyn o bryd

Ond yn ôl Thomas, 32, does "dim rheswm" i beidio gwisgo un bellach o ystyried y datblygiad sydd wedi bod yn nyluniad helmedau dros y blynyddoedd diwethaf.

Ychwanegodd nad oedd "erioed wedi reidio beic yn Llundain" oni bai am adegau ble mae'n rasio.

"Dwi wedi gwylio o dacsi ac mae e'n edrych braidd yn wallgof," meddai.

Does dim cyfraith ar hyn o bryd sy'n gorfodi beicwyr i wisgo helmedau, ond mae Rheolau'r Ffordd Fawr yn argymell pobl i'w defnyddio.