Cymry'n colli £87m o system fudd-daliadau anabledd PIP
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwil gan BBC Cymru wedi amcangyfrif bod dros £87m wedi cael ei golli wrth i bobl symud o un system o fudd-daliadau anabledd i'r llall.
Bu farw Keith Jones, oedd yn pwyso dim ond chwe stôn (38kg) erbyn ei farwolaeth, ddyddiau cyn ei apêl yn erbyn y penderfyniad i wrthod talu'r budd-dal iddo.
Roedd yn un o 30,000 o bobl yng Nghymru oedd yn arfer cael y Lwfans Byw i'r Anabl (DLA), ond a gafodd eu gwrthod ar gyfer y Taliad Annibyniaeth Personol (PIP).
Mae Llywodraeth y DU yn dweud bod 40% o bobl yn derbyn mwy o arian dan PIP nag oedden nhw yng nghyfnod y DLA.
Dechreuodd Keith Jones o Wrecsam dderbyn DLA yn 1997 ar ôl i ganser y geg olygu nad oedd yn gallu bwyta'n iawn na cherdded yn bell.
Yn 2016 bu'n rhaid iddo wneud cais am PIP, ond ar ôl asesiad yn ei gartref cafodd syndod o glywed fod ei gais wedi ei wrthod.
"Pan glywodd, fe ffoniodd fi ac roedd o'n poeni cymaint, ddim yn gwybod beth i wneud nesaf," meddai ei ferch, Kerry Jones.
"Wnaeth yr asesiad ddim gweithio iddo fo. Roedd o mor annheg."
Fe apeliodd Mr Jones yn erbyn y dyfarniad, ond erbyn hynny roedd y canser wedi dychwelyd a bu farw ar 2 Awst 2017 yn 66 oed - ddeuddydd cyn dyddiad ei apêl.
Penderfynodd Ms Jones i barhau gydag apêl ei thad, ac ym mis Ionawr eleni cafodd glywed ei bod yn llwyddiannus.
"Nes i ddod allan o'r llys yn crio. Roedden nhw wedi gadael fy nhad i lawr yn ddirfawr. Dwi'n flin a dwi'n siomedig."
Mae PIP wedi bod yn cymryd lle'r DLA yn raddol ers 2013 fel y brif ffordd o dalu budd-daliadau i bobl anabl neu sydd â salwch.
Mae pobl oedd yn arfer hawlio DLA wedi bod yn gorfod cael eu hailasesu gan gwmni preifat Capita, sy'n gwneud y gwaith ar ran y llywodraeth.
Ond mae ymchwil BBC Cymru wedi dangos bod 29% o'r 100,000 oedd yn arfer hawlio DLA yng Nghymru wedi gweld eu ceisiadau PIP yn cael eu gwrthod.
'Costio mwy'
Dywedodd elusen anabledd Scope fod y ffigyrau'n "bryderus tu hwnt" ac maen nhw'n galw am "archwiliad brys" o'r broses asesu.
"Mae'n fater o bryder bod cymaint o bobl anabl yn wynebu cwymp sydyn yn y gefnogaeth ariannol hanfodol yma," meddai James Taylor o Scope.
"Mae bywyd yn costio mwy os ydych chi'n anabl. Dyw'r costau ychwanegol yma ddim wedi diflannu dim ond oherwydd bod proses asesu gwahanol.
"Heb archwiliad brys o'r broses asesu PIP, bydd y system yn parhau i weithio yn erbyn pobl anabl yn hytrach nag o'u plaid."
Mae ymchwil BBC Cymru, sydd yn cael ei gydnabod gan Scope, yn datgelu bod y nifer sydd wedi cael eu gwrthod yn eu hailasesiad gyfwerth ag £87m yn llai o fudd-daliadau'n cael eu talu.
Ymhlith yr ardaloedd sydd wedi'u taro caletaf mae rhai o rannau tlotaf Cymru - gyda Chastell-nedd Port Talbot yn gweld 32% o'r rheiny oedd yn hawlio DLA yn cael eu gwrthod rhag PIP, toriad o £8m y flwyddyn.
Ar y llaw arall daeth y toriad lleiaf yn Sir Fynwy - £1.5m - gydag ond 24% o'r rheiny oedd yn cael DLA yn gweld eu cais am PIP yn cael ei wrthod.
'Rhagor o dystiolaeth'
Yn ôl yr Adran Gyfiawnder roedd 75% o'r apeliadau gafodd eu cyflwyno yn 2017/18 yn llwyddiannus unwaith iddyn nhw gael gwrandawiad mewn tribiwnlysoedd yng Nghymru.
Ychwanegodd Llywodraeth y DU bod cynnydd wedi bod yn y gwariant ar DLA a PIP yng Nghymru, o £1bn yn 2014 i £1.2bn erbyn 2017.
"Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl anabl yn cael y gefnogaeth lawn sydd ei angen arnyn nhw, ac o dan PIP yng Nghymru mae 40% o bobl yn cael cyfradd uwch o gefnogaeth nag oedden nhw'n ei gal dan DLA.
"Mae penderfyniadau'n cael eu gwneud yn dilyn ystyriaeth o'r holl wybodaeth sy'n cael ei ddarparu gan yr hawlydd, gan gynnwys tystiolaeth gynorthwyol gan eu meddyg teulu neu arbenigwr iechyd."
Dywedodd yr Adran Gyfiawnder bod 3.3miliwn o benderfyniadau PIP wedi eu gwneud - gydag apêl yn digwydd mewn 9% o achosion, a 4% o benderfyniadau'n cael eu gwyrdroi.
"Yn y rhan fwyaf o apeliadau llwyddiannus, mae'r penderfyniad yn cael ei wyrdroi gan fod pobl wedi cyflwyno rhagor o dystiolaeth eiriol neu ysgrifenedig," meddai'r llefarydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mai 2018
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2016