Cau rhan o'r A40 wedi i ddiesel ollwng ar y ffordd
- Cyhoeddwyd
Bu rhan o'r brif ffordd i Sir Benfro ynghau am dair awr fore Mawrth ar ôl i ddisel gael ei ollwng ar y ffordd.
Yn ôl yr heddlu roedd cyflenwad "sylweddol" o ddisel i'r ddau gyfeiriad ar yr A40 rhwng Pont Canaston a Hwlffordd, ger y clwb golff.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys fore Mawrth: "Rydym wedi gofyn am gymorth y frigâd dân ac adran drafnidiaeth y cyngor."
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 06:00 a bu'r ffordd ar gau tan tua 09:00.