Teyrnged i Ben Leonard a syrthiodd o'r Gogarth
- Cyhoeddwyd

Bu farw Ben Leonard wedi iddo ddisgyn oddi ar ddibyn Y Gogarth yn Llandudno
Mae teulu bachgen 17 oed fu farw wedi iddo syrthio o greigiau'r Gogarth yn Llandudno wedi rhoi teyrnged iddo.
Dywedodd Jackie a Dave Leonard bod eu mab yn "fachgen caredig, ffraeth a hyfryd".
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw oddeutu 14:00 prynhawn Sul i Marine Drive wedi i ddyn ddisgyn o'r creigiau.
Bu farw Ben Leonard yn y fan a'r lle.
Dywedodd ei rieni: "Roedd yn fachgen caredig, ffraeth a hyfryd, ac mi fyddwn yn gweld ei eisiau'n arw."
"Gofynnwn i bawb barchu ein preifatrwydd yn ystod yr adeg anodd hon."
Nid oes eto unrhyw fanylion pellach am y digwyddiad.