Pryder am ddyfodol meddygfa wledig yng Ngheredigion
- Cyhoeddwyd
Mae yna ansicrwydd wedi codi ynglŷn â dyfodol meddygfa yn un o drefi cefn gwlad Ceredigion sydd a 6,000 o gleifion ar ei lyfrau.
Oherwydd eu bod methu a phenodi meddyg newydd mae Meddygfa Teifi yn Llandysul wedi dweud y byddant yn rhoi terfyn i'w cytundeb gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda o fis Ionawr 2019.
Dywed y Bwrdd Iechyd fod y sefyllfa wedi codi oherwydd ymddeoliad un o'r meddygon a'u bod wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r practis i ddatrys y sefyllfa.
Mae meddygfa arall Llandysul, Meddygfa Llyn-y-fran (sydd â phump o feddygon), hefyd yn gwasanaethu tua 6,000 o gleifion.
Yn wreiddiol, roedd pedwar o feddygon ym Meddygfa Teifi, ond ar ôl cyfnod y Nadolig 2018 oherwydd ymddeoliad a phenderfyniad i weithio rhan amser, dau a hanner o feddygon fydd yn gweithio yno.
'Meddygfa brysur'
Dywed y bwrdd iechyd mewn datganiad mae lles y cleifion yw eu blaenoriaeth.
"Bydd y Practis a'r Bwrdd Iechyd nawr yn ceisio gweithio gyda'r gymuned a phractisau cyfagos er mwyn dod o hyd i ddyfodol mwy hirdymor.
"Gall y cleifion sydd wedi'u cofrestru gyda Meddygfa Teifi fod yn sicr y bydd y gwasanaethau yn parhau i gael eu darparu fel arfer am y tro".
Mae'r Bwrdd wedi ysgrifennu at bob un o gleifion Meddygfa Teifi yn egluro'r sefyllfa ac yn dweud eu bod yn cydweithio gyda meddygfa arall y dref er mwyn sicrhau gwasanaethau yn yr ardal.
Mae Oliver Jones wedi bod yn mynychu'r feddygfa am 16 o flynyddoedd oherwydd effeithiau clefyd DVT a dywedodd wrth raglen Taro'r Post BBC Radio Cymru fod y feddygfa yn un prysur a bod "pob un yn becso".
"Fi mor ddibynnol ar y feddygfa, maen nhw'n dda iawn. Pe bai hyn yn digwydd beth fydd yn digwydd i mi a bob un arall."
Dywedodd Peter Davies, aelod o Gyngor tre Llandysul, ei fod yn siomedig iawn a bod y sefyllfa yn achos pryder.
"Bydd pobl yn gofidio am hyn, does dim amheuaeth y bydd pobl yn gorfod aros yn hirach i weld eu meddyg teulu a bydd y gwasanaeth ddim fel oedd o oherwydd i ni wedi colli un meddyg teulu," meddai.
"Nid yn unig yn Llandysul, ond mae hyn yn digwydd ledled Cymru."
Mae nifer o gleifion wedi cysylltu â'r aelod seneddol lleol Ben Lake yn mynegi eu pryder.
Dywedodd Mr Lake fod y Bwrdd wedi ei sicrhau eu bod yn cael pethau yn eu lle ar gyfer mis Ionawr.
"Rwy'n hyderu eu bod nhw (y Bwrdd Iechyd) yn gwneud be ddylai nhw a byddai'n cadw llygad i sicrhau hynny.
"Ar hyn o bryd maen nhw'n mynd i gymryd dros y feddygfa a'i redeg yn ganolog fel petai, ond fi yn hyderus y byddant yn ffeindio darpariaeth a chael meddygon i gymryd y feddygfa drosodd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2014
- Cyhoeddwyd16 Mai 2017
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2017