Problemau ariannol yn gorfodi cau siop enwog yng Ngwynedd

  • Cyhoeddwyd
KerfootsFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe agorwyd Kerfoots ym Mhorthmadog yn 1874 fel siop adrannol oedd yn gwerthu nwyddau haearn

Mae BBC Cymru'n cael ar ddeall fod un o siopau mwyaf adnabyddus Gwynedd wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, ac o ganlyniad wedi cau ar ôl 144 o flynyddoedd.

Fe agorwyd Kerfoots ym Mhorthmadog yn 1874 fel siop adrannol oedd yn gwerthu nwyddau haearn cyn newid yn sgil dirywiad yn y diwydiant llechi lleol.

Mae'r siop wedi parhau drwy ei hoes dan berchnogaeth teulu annibynnol. Ers y 1980au, roedd y siop yn ymestyn ar hyd tri llawr ar stryd fawr Porthmadog ac roedd caffi poblogaidd ar y safle hefyd.

Un nodwedd o'r siop oedd y grisiau Fictorianaidd troellog, yn honedig yr unig un o'i fath sydd ar ôl yn y DU.

'Sefydliad arbennig'

Fe gadarnhaodd Robert Rutherford o gwmni diddymwyr Parkin S. Booth nad yw'r cwmni "wedi gallu sicrhau gwerthiant digonol. Maen nhw wedi stopio masnachu yn dilyn newid yn y ffordd mae pobl yn siopa".

Ychwanegodd Mr Rutherford fod y siop yn "sefydliad arbennig" a dywedodd fydd yn cael ei "fethu, er gwaethaf ymdrechion y rheolwyr a'r staff i'w achub".

Ffynhonnell y llun, KERFOOTS
Disgrifiad o’r llun,

Un arwedd nodweddiadol o'r siop oedd y grisiau fictorianaidd troellog, yn honedig yr unig un o'i fath sydd ar ôl yn y DU

Roedd "22 neu 23" o bobl yn cael eu cyflogi yn y siop yn ôl Mr Rutherford.

Bydd cyfarfod credydwyr yn cael ei gynnal ar 21 Medi.

'Ergyd i Borthmadog'

Mae Cynghorydd Dwyrain Porthmadog, Nia Jeffries wedi dweud bydd cau'r siop yn "ergyd i Borthmadog."

"Rwy'n cydymdeimlo gyda'r aelodau o staff sydd wedi derbyn newyddion drwg heddiw. Mae hyn yn ergyd i Borthmadog ac yn anffodus yn batrwm cyffredin ar hyd y DU gyda siopau fel House of Fraser yn ei chael hi'n anodd.

"Er gwaethaf hyn, mae Porthmadog yn dref fywiog gyda chymuned gadarn - fe ddown at ein gilydd.

"Rwy'n gobeithio bydd prynwr yn cael ei ganfod ar gyfer yr adeilad arbennig yma gyda'r nodweddion arbennig fel y grisiau a'r nenfwd arbennig," meddai.