Yn cyflwyno... Geriant Thomas?!
- Cyhoeddwyd

'Ennill y Tour de France ac mi fydd dy enw di'n cael ei adnabod ledled y byd.'
Mae'n ddamcaniad digon teg, ydy ddim?
Ond er bod Geraint Thomas - enillydd y Tour eleni - wedi hen arfer â phobl yn camsillafu ei enw, go brin y byddai'n disgwyl i'w dîm ei hun wneud hynny.
Mewn fideos gafodd eu rhoi ar Twitter a Facebook fore Mercher, i gyhoeddi lein-yp Team Sky ar gyfer y Tour of Britain, mae'r seiclwr o Gaerdydd yn cael ei enwi fel 'Geriant Thomas'.
Cafodd y fideos eu dileu brynhawn Mercher a'u hail-gyhoeddi gyda enw Geraint Thomas wedi'i gywiro.
Mae Geraint, sy'n 32 oed, wedi bod yn seiclo i Team Sky ers i'r tîm ddod i fodolaeth yn 2010.
Geraint ydy'r Cymro cyntaf i ennill y Tour de France, sydd yn cael ei gydnabod fel ras seiclo fwya'r byd.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Yn y cyfamser, mae Cyngor Casnewydd wedi cyhoeddi y byddan nhw'n ail-enwi Felodrôm Cenedlaethol Cymru ar ôl campau'r seiclwr yn Ffrainc.
Gobeithio bod y swyddogion sy'n gyfrifol yn darllen yn ofalus...
Hefyd o ddiddordeb: