Cymdeithas bêl-droed wedi trafod cais Cwpan y Byd 2030
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) wedi cynnal trafodaethau am gais posib gan y 'gwledydd cartref' i gynnal Cwpan y Byd 2030.
Credai Cadeirydd CBDC, Jonathan Ford, y byddai'r cais ar y cyd gyda Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn un "cryf a chymhellol".
Parhau mae'r trafodaethau, ac er nad oes disgwyl penderfyniad tan "ymhell i mewn i 2019", cadarnhaodd Mr Ford y bydd astudiaeth yn cael ei gynnal i weld os byddai cynnal digwyddiad o'r fath yn bosib.
Mae'r corff rheoli UEFA eisoes wedi dweud y bydden nhw'n cefnogi cais o'r fath, tra bod llefarydd ar ran Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru hefyd wedi datgan eu cefnogaeth i'r syniad.
'Cyfle ffantastig'
Dywedodd Mr Ford: "Mi fydd astudiaeth dichonoldeb yn cael ei gynnal i weld os byddai cais gan y DU, y gwledydd cartref neu'i debyg yn un cryf.
"Mae 'na ffordd hir i fynd cyn hynny, ond gallai fod yn 2030, Cwpan y Byd yn y gwledydd cartref - am gyfle ffantastig"
Ym mis Mehefin, dywedodd cyn-Arweinydd Cymdeithas Bêl-droed Yr Alban, Stewart Regan, fod cynnig gan y gwledydd cartref i gynnal y twrnamaint yn "bendant ar y radar".
Daeth y sylwadau ar ôl i David Gill, is-lywydd Fifa, ddweud y dylai Lloegr fod yn hyderus wrth gyflwyno cais - er iddyn nhw golli allan i Rwsia ar gyfer Cwpan y Byd 2018.
Mae llefaryddion ar ran cymdeithasau pêl-droed Yr Alban a Gogledd Iwerddon eisoes wedi dweud eu bod yn "agored" i'r syniad o gais ar y cyd.
Mae'r Ariannin, Uruguay a Paraguay wedi cyhoeddi eu bwriad i gyflwyno cais i gynnal y gystadleuaeth, tra bod trafodaethau hefyd yn cael eu cynnal rhwng Tunisia, Algeria a Moroco.
'Trafodaethau hir i ddod'
Cwpan y Byd 2026 yn yr Unol Daleithiau, Canada a Mecsico fydd y cyntaf i gynnwys 48 tîm.
Ychwanegodd Mr Ford: "Y gwirionedd i wledydd fel Yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yw bod rhaid i ni ddibynnu ar bartneriaeth â gwlad arall, a'r un synhwyrol i ni fyddai Lloegr.
"Mae strwythur y gystadleuaeth wedi newid - mae angen 16 stadiwm sy'n dal 40,000 o bobl nawr.
"Wrth gwrs, mae gennyn ni stadiwm ffantastig yn Stadiwm Principality a byddai'n grêt bod yno, ond mae trafodaethau hir i ddod."
Dywedodd Ysgrifennydd Economi Cymru, Ken Skates: "Rydym yn ymwybodol ac yn gwbl gefnogol o'r astudiaeth i'r cynnig posib i fod yn rhan o gais Cwpan y Byd 2030.
"Rydym wedi ymrwymo i'r astudiaeth, ac o gofio fod gan Gymru hanes o gynnal digwyddiadau mawr, ac ein huchelgais yw i lwyfannu mwy o ddigwyddiadau, rydym yn gwbl gefnogol o fwriad Cymdeithas Bêl-Droed Cymru."
Mae llefarydd Plaid Cymru ar Chwaraeon, Rhun ap Iorwerth wedi ymateb gan ddweud byddai'n cefnogi edrych ymhellach ar ffyrdd o "ariannu'r cyfle cyffrous" yma.
"Mae ceisiadau ar y cyd yn dod yn fwy fwy cyffredin ar gyfer pencampwriaethau mwya'r byd, a buaswn yn cefnogi cais ar y cyd yn enw'r gwledydd pêl-droed annibynnol o'r ynysoedd yma.
"Byddai'n blatfform mawr i ni allu dathlu ein pêl-droed ac ein hunaniaeth chwaraeon cenedlaethol mewn partneriaeth ag eraill.
"Byddai na gwestiynau mawr ynglŷn â'r gost, ond byddwn yn cefnogi edrych ymhellach ar y cyfleoedd cyffrous yma," meddai.
'Newyddion gwych'
Wrth ymateb ar raglen y Post Cyntaf fore Iau, dywedodd un o gefnogwyr Cymru, Gary Pritchard, y byddai'n newyddion gwych i bêl-droed yng Nghymru petai'n digwydd.
"Mi fase hi'n wych i bêl droed yng Nghymru. Y bechod mwyaf yw mai ond un stadiwm sydd ganddo ni yng Nghymru sydd yn ffitio be sydd ei angen.
"Da ni bendant eisiau cadw statws fel gwlad bêl-droed annibynnol. Y peryg yw bydd hi'n cael ei hadnabod fel Cwpan y Byd y Deyrnas Unedig.
"O ran y pêl-droed mi fase gweld yr holl bobl yn ymweld â Chaerdydd yn fendigedig.
"Ar un ochr mae'n newyddion gwych, ond ar y llaw arall dani wrth gwrs yn sôn mai appendage i Gwpan y Byd Lloegr fyddwn ni," meddai.