Galw am drafod dyfodol safle milwrol Trecwn, Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Mae un o gynghorwyr Sir Benfro wedi galw ar berchnogion hen safle milwrol Trecwn i gynnal trafodaethau ynglŷn â'i ddyfodol.
Yn ystod y Rhyfel Oer, roedd Trecwn un o safleoedd milwrol mwyaf cyfrinachol Ewrop, gyda rhyw 50 o dwneli tanddaearol wedi eu naddu yn y dyffryn, ble roedd ffrwydron yn cael eu cadw.
Fe gaeodd y safle yn 1992, ac fe gollodd rhyw 500 o bobl eu swyddi.
Yn ôl y cynghorydd sir Sam Kurtz, mae angen "cydweithio" gyda Llywodraeth Cymru i wneud y mwyaf o'r safle a denu swyddi
Dywedodd llefarydd ar ran y Manhattan Loft Corporation, perchnogion y safle, nad oedden nhw am wneud unrhyw sylw.
Cafodd Trecwn ei brynu gan y Manhattan Loft Corporation, cwmni o Lundain, yn 1992.
Y bwriad oedd datblygu parc busnes yno a storio eiddo drudfawr.
Yn 2015, cafodd caniatâd cynllunio ei roi ar gyfer gorsaf biomas fyddai wedi cyflogi 45 o bobl, roedd yna ganiatâd hefyd i gynhyrchu trydan gyda pheiriannau diesel.
Dyw'r cynlluniau ddim wedi cael eu gwireddu, er bod Trecwn yn rhan o ardal fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau.
'Cymaint o botensial'
Mae Mr Kurtz, cynghorydd dros ardal Scleddau, wedi galw am drafodaethau gyda'r perchnogion, Llywodraeth Cymru a'r cyngor sir.
"Mae'n rhaid cydweithio i gael rhywbeth substantial yma yn Nhrecwn ond ar y funud does dim fel 'na yn digwydd.
"Mae hanes y safle yn unigryw i Sir Benfro, pam lai dod a thwrisitiad yma.. pam ddim ag agor e lan i ddod a swyddi yma?"
Ychwanegodd Rhys Hughes y'n byw wrth ymyl y safle, fod Trecwn yn "rhan o'n treftadaeth ni yng gogledd Sir Benfro".
"Ma' fe'n safle mor arbennig, mae cymaint o botensial fewn yna... gallwch chi gael rhywbeth fel Center Parks neu Bluestone yno i ddenu twristiaid a chreu swyddi, ond ma' fe just yn segur."