Carcharu dyn am 18 mlynedd am dreisio pedair dynes
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 26 oed wedi'i garcharu am 18 mlynedd am dreisio pedair dynes ar wahanol adegau rwng 2009-2016.
Fe wnaeth Aidan Bradley o Dorfaen wadu pum cyhuddiad o dreisio ond cyfaddef i fod a delweddau anweddus o blant yn ei feddiant.
Dywedodd y Barnwr Jeremy Jenkins fod Bradley yn berson "ystrywgar" a "chreulon."
Bydd yn gorfod treulio o leiaf 10 mlynedd yn y carchar cyn cael ei ystyried am barôl ar drwydded.
'Troseddwr peryglus'
Clywodd Llys y Goron Caerdydd os na fyddai'r heddlu wedi siarad gyda rhai o'r dioddefwyr, yna ni fyddai'r wybodaeth "wedi dod i'r amlwg" ac fe allai Bradley fod wedi dianc rhag cyfiawnder.
Ychwanegodd y barnwr fod Bradley yn ddyn "carismatig" oedd gyda "ochr arall greulon."
Wrth ei ddisgrifio fel "troseddwr peryglus" wnaeth ymddwyn mewn ffordd ofnadwy, roedd y barnwr yn fodlon fod Bradley wedi dweud celwydd wrth ei ddioddefwyr, drwy ddweud nad oed yn gallu cael plant.
Bydd gorchymyn yn cael ei lunio hefyd sy'n gwahardd Bradley am oes rhag cysylltu'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gyda'r dioddefwyr.