Galw am fwy o orsafoedd ac arhosfannau ar yr A470

  • Cyhoeddwyd
A470
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r A470 yn 186 milltir o hyd, gan fynd o Landudno i Gaerdydd

Mae galwadau wedi'u gwneud i wella'r ddarpariaeth o ran gwasanaethau ar y brif ffordd sy'n cysylltu gogledd a de Cymru - yr A470.

Mae corff busnes CBI Cymru wedi gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried ariannu rhwydwaith o orsafoedd petrol ac arhosfannau ar hyd y ffordd 186 milltir o hyd.

Yn ôl y CBI, gallai hefyd fod yn gyfle i ateb y galw o ran gosod gorsafoedd gwefru i geir trydan ledled y wlad.

Pryder nifer yw bod y ffordd, sy'n mynd o Landudno i Gaerdydd, yn brin o ran gwasanaethau am rannau helaeth.

Mae Llanelwedd ym Mhowys yn arhosfan boblogaidd ar y ffordd, ond dydy'r rheiny chwaith ddim yn agored 24 awr y dydd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Lowri Thomas bod diffyg gwasanaethau sylfaenol ar rannau helaeth o'r ffordd

Mae Lowri Thomas o Lanfairpwll, sydd nawr yn byw yng Nghaerdydd, yn teithio i'r gogledd ac yn ôl tua dwywaith y mis, ac mae hi'n un o nifer sydd eisiau gweld gwelliannau.

"Unwaith 'da chi'n pasio Llanfair-ym-Muallt, does 'na ddim llawer am weddill y daith," meddai.

"Pethau syml fel stopio i fynd i'r toiled, does 'na ddim llefydd addas.

"Mae 'na rai ar ochr y ffordd, ond dim rhai y byddwn eisiau defnyddio ar fy mhen fy hun wedi iddi dywyllu."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Chris Sutton bod "diffyg o ran pwyntiau gwefru ledled Cymru"

Ychwanegodd Chris Sutton o CBI Cymru y byddai sefydlu rhagor o orsafoedd petrol ac arhosfannau yn gyfle gwych i osod pwyntiau gwefru hefyd.

"Ry'n ni'n gwybod bod diffyg o ran pwyntiau gwefru i geir trydan ledled Cymru," meddai.

"I'r rheiny sydd â cheir trydan, ar hyn o bryd mae'n fater o groesi eich bysedd os fyddwch chi'n gallu cyrraedd pen y daith neu ddod o hyd i rywle i wefru'r car ar y ffordd."

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn edrych ar y posibilrwydd o wella'r ddarpariaeth o ran gwasanaethau ar draws eu rhwydwaith.

Ychwanegodd llefarydd y byddan nhw'n ystyried sefydlu gorsafoedd petrol ac arhosfannau newydd wrth ddatblygu Strategaeth Trafnidiaeth Cymru newydd.