Uwch Gynghrair Lloegr: Caerdydd 2-3 Arsenal

  • Cyhoeddwyd
Danny Ward ar ôl sgorio ail gôl CaerdyddFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Danny Ward wnaeth sgorio ail gôl Caerdydd

Er iddyn nhw sgorio'u goliau cyntaf ers dychwelyd i Uwch Gynghrair Lloegr, mae Caerdydd yn dal heb sicrhau buddugoliaeth ar ôl colli o 2-3 i Arsenal.

Er gwaethaf cychwyn addawol gan y tîm cartref, ac ambell i gamgymeriad gan golwr y gwrthwynebwyr, Petr Cech, Arsenal wnaeth sgorio gyntaf gyda gôl Shkodran Mustafi ar ôl 12 munud.

Roedd yna gyfloedd i'r ddwy ochor wedi hynny, er i Arsenal gael y rhan fwayf o'r meddiant nes i Victor Camarasa unioni'r sgôr ar ddiwedd yr hanner cyntaf.

Dyna oedd gôl gyntaf Caerdydd yn Uwch Gyngrhair Lloegr y tymor yma - 1,597 o ddiwrnodau ers eu gôl ddiwethaf ar y lefel uchaf.

Wedi 62 munud roedd Pierre-Emerick Aubameyang wedi rhoi Arsenal ar y blaen unwaith eto gydag ergyd gofiadwy o 20 llath.

Tarodd yr Adar Gleision yn ôl saith munud yn ddiweddarach diolch i beniad Danny Ward o gic rydd y capten, Sean Morrison.

Ond doedd dim taro'n ôl wedi i Arsenal fynd ar y blaen am y trydydd tro wedi 81 munud, gydag ergyd nerthol i gornel y rhwyd gan Alexandre Lacazette.