Cymru i elwa o ddadl rhwng chwaraewyr a CBD Denmarc?
- Cyhoeddwyd
Mae'n bosib na fydd enwau mawr pêl-droed Denmarc yn chwarae yn erbyn Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd, oherwydd ffrae rhwng y garfan a'r gymdeithas bêl-droed (DBU).
Yn dilyn dadl am hawliau masnachol, mae nifer o chwaraewyr fwyaf adnabyddus Denmarc wedi gwrthod arwyddo cytundeb â'r gymdeithas.
Oherwydd hyn, gallai'r DBU orfod dewis carfan o chwaraewyr o gynghreiriau is Denmarc ar gyfer eu dwy gêm yn erbyn Slofacia a Chymru.
Ni fydd y rheolwr Age Hareide na'r is-reolwr Jon Dahl Tomasson yn arwain y tîm chwaith.
Penderfynodd y DBU nad oes angen i Hareide reoli'r tîm, gan na fydd y garfan yn cynnwys y chwaraewyr yr oedd o wedi eu dewis.
Ddydd Sul gwrthododd y DBU gynnig gan gymdeithas pêl-droedwyr Denmarc i chwarae'r ddwy gêm nesaf o dan yr un telerau a'r cytundeb blaenorol.
Golygai hyn fod posib y bydd Cymru yn wynebu Denmarc heb sêr fel Kasper Schmeichel, Andreas Christensen a Christian Eriksen.
Mae'r corff rheoli UEFA wedi rhybuddio Denmarc fod modd eu gwahardd o gystadlaethau os nad ydynt yn llwyddo i gwblhau pob gêm o fewn y pedair blynedd nesaf - hyn ar ôl i'r tîm menywod beidio â chwarae gêm ragbrofol Cwpan y Byd y llynedd.
Bydd Cymru yn herio Denmarc yn Aarhus ar nos Sul, 9 Medi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Medi 2018