Swyddogion cynllunio yn argymell ffordd osgoi i Lanbedr

  • Cyhoeddwyd
Llanbedr
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r bont gul sydd yng nghanol y pentref yn peri problemau i gerbydau mawr

Mae swyddogion cynllunio Parc Cenedlaethol Eryri yn argymell y dylid rhoi caniatâd cynllunio i ffordd osgoi Llanbedr, ger Harlech.

Mae pobl leol wedi bod yn disgwyl ers blynyddoedd am ffordd osgoi, er bod gan rai bryderon am y cynllun.

Fel arfer, mae tua 3,000 o gerbydau yn teithio trwy'r pentref yn ddyddiol, gyda'r rhif hwnnw'n cynyddu i 5,000 yn ystod mis Awst wrth i dwristiaid ymweld â'r ardal.

Bydd aelodau'r pwyllgor cynllunio yn trafod y mater ddydd Mercher.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Morfudd Lloyd, mae "tagfeydd" hirfaith yn peri cryn dipyn o broblemau i deithwyr

Mae'r cyngor cymuned leol o blaid y cynlluniau, ond maent wedi galw am gylchfannau i gael eu cynnwys yn rhan o'r cynlluniau er mwyn ceisio atal damweiniau.

Yn ôl Morfudd Lloyd, clerc y cyngor cymuned, mae "tagfeydd" yn broblem aruthrol.

Esboniodd Ms Lloyd: "Mae tagfeydd yn mynd yn ôl i ben draw Pensarn o un pen i'r pentref ac i lawr i gyfeiriad Dyffryn [Ardudwy] ochr arall y pentra heb sôn am y tagfeydd sydd lawr ffor' Mochras hefyd."

Mae'r cyngor cymuned hefyd yn gobeithio y byddai ffordd osgoi yn denu mwy i'r ardal.

'Lle i ddatblygiadau llai'

Er nad ydynt bellach yn croesawi porth gofod i'r ardal, yn ôl Ms Lloyd mae lle i ddatblygiadau llai - ond "i'r rheiny ddod yma mae'n rhaid gwella'r ffordd".

Serch hynny, mae'r cyngor cymuned wedi cyflwyno amod i'r cynllun, sef cyflwyno cylchfannau bob pen i'r pentref.

Dywedodd Ms Lloyd: "Rydym wedi gofyn am dri, erbyn rŵan does 'na ddim un ar y cynllun yn anffodus.

"Pryder sgynnon ni fel sy' 'di bod yn digwydd yn Nolgellau, sy 'di digwydd yn fwy diweddar yr wythnos diwethaf neu'r wythnos cynt yn Nhrawsfynydd - dyna chi ffyrdd yn brysur a damweiniau angheuol yn digwydd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Bryn Williams yn dweud na fydd y ffordd osgoi'n amharu'n ormodol ar fusnesau'r pentref gan nad oes lle i barcio i ymwelwyr

Yn ôl Bryn Williams, sy'n gweithio ym mhencadlys CCF yn Llanbedr, mae'r heol trwy'r pentref yn achosi nifer o broblemau amrywiol.

"Y broblem fwyaf yw'r bont a loris methu dŵad i fyny," meddai.

"Mae ceir wedi parcio yna ac mae'r loris yn methu troi fyny, ac wedyn mae'r ffordd yn cloi i fyny a dyw hi ddim yn bosib i neb symud yma. R'un fath efo bysus a phob dim."

Yn ogystal, mae ceir yn parcio ar hyd y ffordd yn ychwanegu at y broblem.

Dywedodd Mr Williams: "Lawr lle dwi'n byw, ar ochr yr afon, da chi'n methu mynd i mewn i'ch entrance - mae ceir 'di parcio yna a cheir yn mynd i fyny ac i lawr ac mae'r lle'n cau fyny."

Mae Mr Williams hefyd yn dadlau yn erbyn busnesau sy'n honni bydd adeiladu ffordd osgoi yn effeithio'n negyddol ar economi'r ardal.

"Mae pobol yn dweud y byddai'n amharu ar y siopau a llefydd fela, ond does nunlle iddyn nhw barcio i stopio i fynd i'r siopau felly dio'm yn mynd i wneud dim gwahaniaeth," meddai.