Dim porth gofod i faes awyr Llanbedr yng Ngwynedd

  • Cyhoeddwyd
Delwedd artist
Disgrifiad o’r llun,

Delwedd artist o sut olwg fyddai ar y porth gofod

Mae cadarnhad wedi dod mai yn Sutherland yn Yr Alban ac nid yn Llanbedr yng Ngwynedd fydd lleoliad porth gofod cyntaf y DU.

Roedd y maes awyr ger Harlech yn un o bum safle roedd Llywodraeth y DU yn ei ystyried ar gyfer lansio awyrennau i'r gofod.

Mae Awdurdod Gofod y DU wedi dewis ardal A'Mhoine yn Yr Alban fel y safle ar gyfer lansiadau fertigol.

Ond mae'n dal yn bosib y bydd Llanbedr yn cael ei defnyddio ar gyfer teithiau i'r gofod yn y dyfodol, ar gyfer lansiadau llorweddol.

Cyfle i Lanbedr o hyd

Ym mis Mawrth 2015 cafodd y rhestr o wyth safle ei chwtogi i bump ac roedd un lleoliad arall wrth gefn fel safle dros dro.

Mae modd i safleoedd eraill wneud cais i fod ar y rhestr petaen nhw'n dangos eu bod yn gallu cyflawni'r gofynion.

Pan ddaeth yr ymgynghoriad i ben ym mis Hydref 2014 roedd arweinwyr busnes yn ardal Llanbedr yn dweud bod y cynllun yn cynnig llawer o swyddi newydd mewn ardal sydd wir eu hangen.

Disgrifiad o’r llun,

Petai'r cynllun wedi'i gymeradwyo byddai angen gwaith datblygu sylweddol ar faes awyr Llanbedr

Ond roedd 'na bryderon am effaith unrhyw gynllun posib ar amaethyddiaeth, twristiaeth a byd natur.

Bydd menter Highlands and Islands yn Yr Alban yn cael £2.5m gan Lywodraeth y DU i ddatblygu'r porth a'r gobaith yw y bydd yn weithredol yn nechrau'r 2020au.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cronfa ddatblygu gwerth £2m fodd bynnag ar gyfer porthladdoedd gofod llorweddol, ac fe fydd cyfle i'r safle yn Llanbedr wneud cais am gyfran o'r arian hwnnw.

Dywedodd Graham Turnock, Prif Weithredwr Asiantaeth Gofod y DU, ei fod yn "falch iawn" bod cyfle i Lanbedr o hyd.

"Mae Asiantaeth Ofod y DU wastad wedi dweud ei fod wedi'i selio ar gystadleuaeth fasnachol ond hefyd, yn bwysicach, diogelwch y maes awyr," meddai.

"Felly er enghraifft, mae Llanbedr mewn safle reit dda o ran gwneud achos diogelwch cryf achos mae'n ardal gyda phoblogaeth isel ac rydych chi'n mynd syth allan i'r môr."