Galw am well darpariaeth Gymraeg i blant a thystion bregus
- Cyhoeddwyd
Mae angen gwell darpariaeth cyfrwng Cymraeg i blant a thystion bregus yng Nghymru wrth iddyn nhw fynd drwy'r system cyfiawnder troseddol, yn ôl y Comisiynydd Dioddefwyr.
Mae Cyfryngwyr Cofrestredig yn cael eu defnyddio gan yr heddlu a'r llysoedd i helpu tystion gydag anawsterau cyfathrebu i roi tystiolaeth mewn achosion.
Ar hyn o bryd dim ond un arbenigwr llawn amser a thri rhan amser sy'n cefnogi plant a thystion bregus o fewn y system cyfiawnder yng Nghymru.
Eisoes, mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi dweud eu bod yn bwriadu recriwtio mwy o arbenigwyr, gan gynnwys rhai yng Nghymru.
Ar ddechrau'r flwyddyn roedd 135 o swyddogion yng Nghymru a Lloegr, yn ôl y Comisiynydd Dioddefwyr a Thystion, y Farwnes Helen Newlove.
Yr unig Gyfryngwr Cofrestredig llawn amser yng Nghymru yw Robert Thomas o Benarth ym Mro Morgannwg - yr unig un sy'n siarad Cymraeg.
"Da ni'n helpu'r broses gyfathrebu rhwng tystion a'r heddlu yn y lle cyntaf ac wedyn yn y llys - llys y goron, llys ynadon ac yn y blaen," meddai.
Angen sefydlu 'rapport'
Ar gyfartaledd mae Mr Thomas yn gweithio ar ddau achos newydd bob wythnos, gyda nifer yn ymwneud â phlant.
Ychwanegodd: "Mae'n rhaid cofio bod y plant yma, yn aml, mae pethau drwg ofnadwy wedi digwydd iddyn nhw ac wrth gwrs dydyn nhw ddim yn trafod pethau fel 'na fel arfer."
"Y peth cyntaf i 'neud pan 'da chi'n cwrdd â thystion yw sefydlu math o rapport gyda nhw, dyna'r peth pwysica'.
"Os dy' nhw ddim yn dy hoffi di, ddim yn dy trustio di, fydde nhw byth yn ateb cwestiynau anodd."
Cymry yn 'colli allan'
Mae Robert Thomas yn teithio o Fagwyr i Ddoc Penfro gyda'i waith ac mae'r prinder cyfryngwyr yn golygu bod y rhan fwyaf yn dod o dros y ffin, gan arwain at oedi a chostau ychwanegol.
Dywedodd bod tystion a dioddefwyr Cymraeg eu hiaith yn colli allan.
"Mae'n ddigon anodd rhoi tystiolaeth yn eich iaith gyntaf a chael mynediad i gymorth. Os oes rhaid i chi ddefnyddio'ch ail iaith, mae'r sefyllfa'n waeth."
Mae adroddiad gan y Comisiynydd Dioddefwyr a Thystion, y Farwnes Helen Newlove, yn amlygu prinder Cyfryngwyr Cofrestredig ac mae'n dweud bod angen gwell darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.
Dywedodd bod 550 o geisiadau'n fisol ar gyfartaledd yng Nghymru a Lloegr am gefnogaeth gan bobl â chyflyrau fel dementia, parlys yr ymennydd ac awtistiaeth.
Nododd yr adroddiad:
Bod prinder penodol o'r swyddogion yn ardaloedd Heddlu Gwent a Dyfed-Powys;
Bod y gyfradd am gymorth ganddynt yn ardal llu Heddlu Dyfed-Powys y chweched uchaf yng Nghymru a Lloegr;
Bod 'na anawsterau o fewn llu Heddlu'r Gogledd oherwydd diffyg swyddogion sy'n siarad Cymraeg.
Nododd Ms Newlove hefyd bod plant sy'n rhoi tystiolaeth yn aros am bedair wythnos ar gyfartaledd er mwyn cael eu paru gyda'r cyfryngwyr.
Dywedodd bod gwaith y Cyfryngwyr Cofrestredig yn "amhrisiadwy" wrth ddarparu cymorth i ddioddefwyr a thystion bregus.
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a chadeirydd Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Gogledd Cymru hefyd wedi mynegi eu pryderon.
"Ry'n ni'n gwybod, pan fo dioddefwr yn ofidus, maen nhw'n fwy cyfforddus yn cyfathrebu yn eu hiaith gyntaf, dylai dioddefwyr Cymraeg eu hiaith gael yr un mynediad i gyfiawnder." meddai Ms Newlove.
"Mae'r Cyfryngwyr Cofrestredig yn rhoi llais i'r rhai mud. Dwi am sicrhau bod llais pob dioddefwr yn cael ei glywed o fewn ein system cyfiawnder."
'Rôl hanfodol'
Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder: "Mae Cyfryngwyr Cofrestredig yn chwarae rôl hanfodol wrth gynorthwyo dioddefwyr a thystion bregus i roi tystiolaeth, a dyna pam yr ydym yn recriwtio 25% yn fwy yn genedlaethol.
"Mae hyn yn cynnwys Cymru lle bydd ymgyrch recriwtio yn cychwyn yn fuan.
"Fe gafodd mwy na 6,500 o dystion eu cefnogi y llynedd gan Gyfryngwyr Cofrestredig sy'n teithio ar hyd a lled y wlad i wneud eu gwaith."