Dim ailfeddwl chwarae dros Gymru medd David Brooks

  • Cyhoeddwyd
David BrooksFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency

Mae'r pêl-droediwr David Brooks yn mynnu na fydd yn newid ei feddwl am chwarae dros Gymru, er bod un o chwaraewyr Gweriniaeth Iwerddon wedi gwneud hynny.

Fydd Declan Rice ddim yng ngharfan Iwerddon yn erbyn Cymru yn ngêm agoriadol Cynghrair Cenhedloedd UEFA nos Iau, wedi i'r rheolwr Martin O'Neill ddatgelu fod amddiffynwr West Ham yn dal i ystyried chwarae dros Loegr.

Mae gan Rice, gafodd ei eni yn Llundain, dri chap dros y Weriniaeth, ond gemau cyfeillgar oedd y rheiny.

Yn yr un modd, gemau cyfeillgar yn unig y mae Brooks, sy'n enedigol o Warrington, wedi eu chwarae dros Gymru hyd yma.

'Dim troi'n ôl'

"Mae penderfyniad gan chwaraewyr iau fel Declan Rice a finnau i'w wneud," meddai Brooks, sy'n 21 oed ac sydd â'i fam yn hanu o Langollen.

"Dydw i ddim yn gwybod beth yw ei sefyllfa ef, na beth yw ei ddymuniad.

"Ond i fi, Cymru oedd hi wastad yn mynd i fod, a dwi'n ddiolchgar i fi gael y cyfle.

"Fydda i ddim yn newid, hyd yn oed os na fydda i'n cael fy ngalw 'mlaen yn erbyn y Weriniaeth.

"Gallwch gael yr holl gyngor, ond os ydych chi eisiau gwneud rhywbeth er mwyn chi'ch hunan, rhaid i chi [wneud y penderfyniad].

"Does dim troi'n ôl o hynny, a fedra i ddim aros i wisgo crys Cymru unwaith eto."

Bydd Cymru'n wynebu Gweriniaeth Iwerddon yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Iau, a'r gic gyntaf am 19:45.