Defnydd Spice gan ddigartref Caerdydd yn 'apocalyps'
- Cyhoeddwyd
Roedd y diwrnod y cyrhaeddodd y cyffur Spice yng Nghaerdydd "fel diwrnod yr apocalyps", yn ôl elusen i'r digartref.
Dywedodd Richard Edwards o Ganolfan Huggard bod defnydd y cyffur wedi cyrraedd "epidemig" yn y brifddinas.
Daw hynny wrth i un sy'n defnyddio'r cyffur ddweud wrth Radio Wales am y peryglon o'i gymryd ar y stryd.
Dywedodd Jason fod pobl ddigartref "yn troi at Spice ac yna mae'n difetha eu bywydau hyd yn oed yn fwy".
Cyffur 'gwyllt'
Roedd Spice yn arfer cael ei ystyried yn gyffur synthetig cyfreithlon, ond bellach mae'n sylwedd seicoweithredol anghyfreithlon.
Cafodd ei greu i gael effaith tebyg i ganabis, ond mae'r sgil-effeithiau'n gallu bod yn ddifrifol iawn i ddefnyddwyr.
Dywedodd Jason wrth Radio Wales ei fod yn gallu prynu bag gwerth £15 yng nghanol Caerdydd o fewn pump i 10 munud.
"Dyma'r cyffur mwyaf gwyllt dwi erioed wedi ei ddefnyddio," meddai.
"Mae pobl yn ei gymryd achos eu bod nhw moyn anghofio be' sy'n digwydd yn eu bywydau.
"Mae rhai yn disgyn mewn i gyflwr fel eu bod mewn breuddwyd sy'n gallu parhau am funudau neu oriau, a phan maen nhw'n deffro yn aml maen nhw'n flin, wedi drysu ac yn ofnus."
Dywedodd ei ffrind, Ed, bod Spice yn rhad ac ar gael yn hawdd yn y ddinas: "Mae'n rhoi'r teimlad o ewfforia fel heroin."
Wrth i'r ddau drafod, maen nhw'n ceisio cofio sawl gwaith maen nhw wedi bod yn anymwybodol o ganlyniad i'r cyffur.
Dywedodd Jason: "Gallwn i smocio pib yma nawr. Gallwn ni fynd dan ei ddylanwad a chael trawiad ar y galon.
"Mae mor syml â hynny."
Dywedodd Mr Edwards o Ganolfan Huggard bod amcangyfrif fod hyd at 70% o bobl ddigartref Caerdydd yn defnyddio Spice.
Mae'r ganolfan yn ceisio cefnogi pobl ddigartref a'u helpu i ddod o hyd i lety diogel a rhoi'r gorau i ddefnyddio cyffuriau.
Dywedodd Mr Edwards: "Mae dau brif gemegyn yn Spice.
"Ar y naill law mae rhywbeth sy'n tawelu rhywun ac yn cael effaith tebyg i ganabis, ond ar y llaw arall mae rhywbeth tebyg i heroin, felly mae'n hawdd mynd yn gaeth iddo ac mae'n gallu rhoi trawiad i rywun os ydyn nhw'n cymryd gormod."
'Dianc o fywyd'
Ychwanegodd: "Dydyn nhw ddim yn ei gymryd am eu bod nhw'n ei fwynhau.
"Maen nhw'n ei gymryd am eu bod nhw eisiau dianc o fywyd ac mae'n rhaid delio gyda'r problemau sydd yna."
Dywedodd y Prif Arolygydd Ian Randall o Heddlu De Cymru bod galwadau i'r llu wedi cynyddu ers i Spice ddod yn boblogaidd.
"Mae Spice allan yna, mae'n broblem, ac mae gan bobl ofn ohono am eu bod yn gweld rhywun sy'n ei ddefnyddio fel sombi, oherwydd effaith y cyffur."
"Yr hyn rydyn ni'n ceisio ei wneud ydy cysylltu pobl gyda'r gwasanaethau maen nhw eu hangen i roi'r gorau i ddefnyddio'r cyffur yn y lle cyntaf, oherwydd mae llif cyson o bobl yn dod i mewn ac allan drwy'r amser, sy'n achosi cynnydd yn y galw [am wasanaethau cymorth]."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2017