'Llai o gyffuriau ar werth ond eu cryfder wedi cynyddu'
- Cyhoeddwyd
Mae adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) yn dangos bod llai o gyffuriau newydd - oedd yn arfer cael eu hadnabod fel cyffuriau cyfreithlon neu 'legal highs' - ar gael yng Nghymru ac ar draws Ewrop.
Ond er bod nifer y sylweddau gwahanol wedi lleihau, mae'r rhai sydd ar gael bellach yn gryfach neu fwy gwenwynig, ac felly yn debyg o fod yn fwy niweidiol i ddefnyddwyr.
Daw'r adroddiad gan WEDINOS - cynllun gan ICC ar gyfer adnabod a phrofi sylweddau newydd - ac mae'n dangos gostyngiad o 23% yn nifer y sylweddau gwahanol sydd ar y farchnad o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Er hynny mae'r adroddiad yn dweud bod cynnydd mewn cyffuriau canabinaidd synthetig, gan arwain at fwy o bobl yn gorfod mynd i'r ysbyty a mwy o niwed wedi'i adrodd ym mhoblogaeth carchardai.
Sylweddau canabinaidd synthetig oedd y mwyaf cyffredin o'r cyffuriau newydd yn y categori seico-weithredol, a chocên oedd y mwyaf cyffredin o'r cyfan.
Roedd mwy hefyd o gyffuriau opiaidd synthetig megis fentanyl.
Mwy o niwed
Dywedodd Dean Acreman, rheolwr prosiect WEDINOS: "Mae'r farchnad gyffuriau ar draws Ewrop yn newid - mae nifer y sylweddau newydd wedi gostwng o 101 yn 2014, a 98 yn 2015, i 66 yn 2016.
"Ond mae'r niwed sy'n cael ei achosi yn cynyddu. Rydym yn gweld cryfder y cyffuriau newydd yn cynyddu, ond hefyd y rhai mwy traddodiadol fel MDMA a chocên ac mae hynny'n her i wasanaethau."
Mae'r adroddiad yn dangos cynnydd mewn cryfder cyffuriau fel 'spice' neu 'mamba', sy'n cael eu cysylltu gyda marwolaethau oherwydd gwenwyno yn Ewrop.
Dywedodd Josie Smith o Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Ar y cyfan mae nifer y rhai sy'n marw oherwydd cyffuriau synthetig newydd yn ffracsiwn o'r rhai sy'n deillio o ddefnyddio heroin. Rydym wedi gweld cynnydd i 123 o farwolaethau oherwydd cyffuriau newydd synthetig yng Nghymru a Lloegr yn 2016.
"Mae llawer mwy hefyd wedi gorfod cael triniaeth ysbyty yng Nghymru dros y blynyddoedd diweddar.
"Mae sylweddau seico-weithredol newydd sy'n dod ar y farchnad yng Nghymru ac ar draws Ewrop yn fygythiad... mae'n bwysig ein bod yn darparu dadansoddiad cywir a manwl o'r niwed allai gael ei achosi ar gyfer y rhai sy'n ystyried eu defnyddio, fel eu bod yn ymwybodol o bob risg."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Ionawr 2017