Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 0-0 Halifax
- Cyhoeddwyd
Mae Wrecsam wedi llithro o frig y Gynghrair Genedlaethol yn dilyn gêm ddi-sgôr gartref yn erbyn Halifax Town.
Fe aeth ymosodwr y Dreigiau, Mike Fondop yn agos at ganfod unig gôl y gêm gydag ergyd o 40 llathen wnaeth daro'r trawst.
Daeth hynny wedi i Halifax roi'r bêl yng nghefn y rhwyd dim ond i weld y gôl yn cael ei gwrthod oherwydd trosedd.
Bydd gem nesaf Wrecsam oddi cartref yn Braintree, sydd ar waelod y gynghrair, ddydd Sadwrn.