Pryder am ostyngiad yn niferoedd ymladdwyr tân 'ar alw'

  • Cyhoeddwyd
ymladdwyr tân

Ar ôl haf prysur i'r gwasanaeth tân ag achub yng Nghymru oherwydd tanau gwair, mae ffigyrau newydd yn dangos bod nifer yr ymladdwyr tân "ar alw" sydd ar gael i ymateb iddyn nhw wedi cwympo dros y degawd diwethaf.

Mae diffoddwyr ar alw yn cefnogi gweithwyr llawn amser, gan amlaf uwchben eu gwaith o ddydd i ddydd.

Ond yn ôl ymchwil gan raglen Newyddion9, mae 120 yn llai yn gwneud y gwaith na 10 mlynedd yn ôl.

Yn ôl y ffigyrau, er bod cynnydd wedi bod yn nifer yr ymladdwyr tân ar alw yn y canolbarth a'r gorllewin, mae'r niferoedd yn y de wedi gostwng o 621 yn 2008 i 615 yn 2018.

Yn y gogledd, mae dros 130 yn llai o ddiffoddwyr tân ar alwad ar gael ar hyn o bryd o'i gymharu â 10 mlynedd yn ôl, wrth i'w niferoedd ostwng o 577 i 443.

Disgrifiad,

Mae ymgyrch recriwtio wedi dechrau i ddenu rhagor i helpu, fel yr esbonia Simon Roome o Wasanaeth Tân ac Achub y De.

Mae'r Gwasanaeth Tân ac Achub yn dweud fod swyddogion tân ar alw yn chwarae rôl allweddol wrth ymateb i alwadau, gan gyfrannu tua traean o waith y gwasanaeth.

Mae ymgyrch newydd wedi dechrau i geisio denu mwy o bobl i'r gwaith.

Yn ôl Caer Timothy, ymladdwr ar alw yn Nhreharris ger Merthyr Tudful, er bod yr hyfforddiant yn heriol, mae budd sylweddol i wneud y gwaith.

"Mae gynnon ni 'beeper' basically... os mae'n mynd off, ni'n brysio yma mor gyflym a ni'n gallu ac yn troi mas i beth bynnag sydd yn dod drwodd.

"Mewn geiriau llai, mae e y swydd gorau yn y byd. Allai ddim disgrifio fe mewn geiriau gwell."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Caer Timothy'n ddiffoddwr ar alw yn ardal Merthyr Tudful

Yn ôl Sion Slaymaker, pennaeth Sir Ceredigion i wasanaeth Tân ac Achub Gorllewin a Chanolbarth Cymru, mae newidiadau mewn cymdeithas yn meddwl bod cadw gafael ar ddiffoddwyr ar alw ar ôl eu hyfforddi yn mynd yn anoddach.

"Yn y gorffennol, roedd pobl yn tueddi i sefyll yn eu cymunedau bach.

"Nawr, mae pobl yn gorfod trafeili lot mwy i gael gwaith, ac mae hyn yn cael impact arnon ni yn y dydd wedyn pan y'n ni moyn cadw crews ar alwad.

"Y peth y'n ni'n gweld mwya' yw bod y nifer o'r ymladdwyr tân ar alwad sydd gyda ni yn sefyll yn eithaf tebyg i beth sydd wedi bod dros y blynyddoedd.

"Ond beth y'n ni'n gweld yw fod y turnover o'r ymladdwyr tân yn mynd lan, ac y'n ni'n gorfod recriwtio lot mwy aml. Felly ni'n edrych am rywbeth i sefydlu a lleihau y turnover yna on staff ni."