Canlyniadau 'calonogol' i dreialon cyffuriau HIV
- Cyhoeddwyd
Mae'r ymateb i gyffur atal HIV wedi bod yn "galonogol" wedi blwyddyn o dreialon gan y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Dechreuodd byrddau iechyd Cymru ddarparu Pre-Exposure Prophylaxis (Prep), sydd yn atal heintio, ym mis Gorffennaf y llynedd.
Yn y flwyddyn gyntaf mae 559 o bobl sydd mewn perygl o gael eu heintio wedi ymuno â'r treialon tair blynedd o hyd.
Er bod rhai achosion o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STI), nid oes unrhyw achosion newydd o HIV wedi cael eu cofnodi ymysg y rhai sy'n rhan o'r prawf.
Beth yw Prep?
Pilsen fach las yw Pre-exposure prophylaxis.
Mae'n amddiffyn celloedd y corff ac yn rhwystro'r firws rhag lluosi os yw'n llwyddo i fynd fewn i'r corff.
Os caiff ei gymryd yn ddyddiol, mae'n lleihau'r tebygrwydd o gael eich heintio o 86%.
Ar hyn o bryd mae'n cael ei ddefnyddio yn UDA, Canada, Awstralia a Ffrainc er mwyn amddiffyn pobl hoyw sydd â risg uchel o gael eu heintio.
Ym mis Awst 2017 cafodd ei gyhoeddi y bydd Prep ar gael i rai cleifion yn Lloegr hefyd fel rhan o brawf.
Fe wnaeth 57% o'r rheini oedd yn gymwys i ymuno â'r prawf, wneud hynny.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: "Rydw i'n falch bod gwasanaethau iechyd rhyw yng Nghymru wedi manteisio ar yr hyn mae Prep yn ei gynnig, ac mae canlyniadau cynnar yr astudiaeth yn galonogol."
Dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at ganlyniadau pellach ond nododd mai dim ond un agwedd o ymdrech ehangach i atal achosion o HIV a STI yng Nghymru yw hyn.
Drwy gynnal y prawf roedd Mr Gething wedi goruwchreoli corff meddyginiaethau, a oedd wedi diystyru'r cyffur am resymau ariannol.