Trafod dull o ddewis arweinydd Llafur

  • Cyhoeddwyd
Gething Drakeford
Disgrifiad o’r llun,

Vaughan Gething (ch.) a Mark Drakeford (dd.) yw'r unig ddau ymgeisydd i sicrhau digon o enwebiadau ar hyn o bryd

Bydd uwch swyddogion y blaid Lafur yng Nghymru yn cwrdd ddydd Sadwrn i drafod sut y bydd eu harweinydd nesaf yn cael ei ethol.

Daw'r etholiad yn yr hydref wedi i Carwyn Jones gyhoeddi y byddai'n camu o'r neilltu ar ddiwedd y flwyddyn.

Ond mae'r dull o ethol yr arweinydd wedi bod yn destun anghytuno o fewn y blaid.

Ar hyn o bryd mae Llafur yn defnyddio coleg etholiadol ar gyfer pleidleisiau fel hyn, gyda phleidleisiau gan aelodau cyffredin, undebau llafur ac aelodau etholedig yn San Steffan a Bae Caerdydd.

Mae'r rhai sydd o blaid y system yn dweud fod hynny'n cadw cysylltiadau cryf gyda'r undebau llafur.

Ond mae eraill yn dweud ei fod yn annheg ac yn awyddus cael system OMOV - un aelod, un bleidlais.

Ddydd Sul bydd aelodau o Bwyllgor Gweithredu Cymru Llafur yn clywed canlyniadau ymgynghoriad gan gyn-Aelod Seneddol Torfaen, yr Arglwydd Murphy, ac yn argymell y ffordd ymlaen.

Fe fydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud mewn cynhadledd arbennig fydd yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn, 15 Medi.

Dau ymgeisydd sydd wedi sicrhau digon o gefnogaeth i fod ar y papur pleidleisio, sef Mark Drakeford a Vaughan Gething.