Nam ar awyren tîm Cymru yn achosi oedi

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Oedi i daith Ryan Giggs a chwaraewyr Cymru i Denmarc

Mae paratoadau tîm pêl-droed Cymru ar gyfer eu gêm yn Denmarc dydd Sul wedi cael eu tarfu yn dilyn oedi i'w hefaniad.

Roedd nam ar yr awyren oedd yn fod i fynd a nhw o Faes Awyr Rhyngwladol Cymru yn Nghaerdydd ar gyfer eu gêm yng Nghwpan y Cenhedloedd ar ddydd Sul.

Roedd disgwyl i Ryan Giggs a'r chwaraewyr gyrraedd Stadiwm Parc Ceres yn Aarhus ar gyfer cynhadledd i'r wasg am 18.30 (Amser Safonol Prydain), ar ôl ymarfer yng Nghymru brynhawn Sadwrn.

Ond yna daeth cadarnhad na fyddai'r hyfforddwr, na'r capten Ashley Williams, yn cyrraedd mewn pryd, ac fe gafodd y gynhadledd ei chanslo.

Am 19.00 nos Sadwrn dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru y bydd yr awyren yn gadael am 20.30 o Gaerdydd ac yn cyrraedd maes awyr Aarhus yn ddiweddarach.

Fe allai hynny olygu fod y tîm a'r hyfforddwr yn cyrraedd Denmarc mor hwyr a hanner nos.

Mae disgwyl i'r gêm rhwng Cymru a Denmarc gychwyn am 17.30 (ASP) ddydd Sul.

Nid dyma'r anhawster cynta i dîm Cymru ei wynebu tra'n paratoi ar gyfer y gêm, ar ôl i dîm Denmarc wrthod cymryd rhan yn wreiddiol oherwydd dadl am gytundebau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd disgwyl i Ryan Giggs a'r capten Ashley Williams gymryd rhan mewn cynhadledd i'r wasg yn Aarhus hwyr brynhawn Sadwrn