Tîm cryfaf Denmarc yn ôl i herio Cymru yn dilyn ffrae
- Cyhoeddwyd
Tîm cryfaf Denmarc fydd yn herio Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd ddydd Sul wedi i'r gymdeithas bêl-droed gytuno i drafod â chwaraewyr ynglŷn â ffrae dros hawliau masnachol.
Roedd carfan Ryan Giggs wedi bod yn wynebu'r posibilrwydd o herio carfan o chwaraewyr amatur yn Aarhus.
Ond mae Denmarc bellach wedi dweud mai'r garfan oedd wedi'i dewis yn wreiddiol fydd yn herio Cymru, gan gynnwys sêr fel Christian Eriksen.
Dywedodd llywydd Cymdeithas Bêl-droed Denmarc, Jesper Moller: "Gallwn ni nawr chwarae'r gêm bwysig Cynghrair y Cenhedloedd gyda'r tîm cenedlaethol cywir, a chanolbwyntio ar y chwaraeon."
Bydd Cymru yn teithio i Ddenmarc yn llawn hyder yn dilyn buddugolaeth wych dros Weriniaeth Iwerddon yng Nghaerdydd nos Iau.
Mae cymdeithas bêl-droed y wlad a chymdeithas y chwaraewyr - dwy ochr y ffrae dros yr hawliau masnachol - wedi dweud na fyddan nhw'n gwneud sylw pellach ar y mater cyn y gêm ddydd Sul.
Roedd y ffrae yn golygu nad oedd chwaraewyr gorau'r wlad - gan gynnwys Eriksen o Tottenham Hotspur a golwr Caerlŷr, Kasper Schmeichel - ar gael ar gyfer y tîm cenedlaethol.
Ond maen nhw bellach wedi cytuno i herio Cymru tra bo'r trafodaethau'n parhau i geisio cael datrysiad i'r dadlau.
Carfan o chwaraewyr amatur wnaeth gynrychioli Denmarc mewn gêm gyfeillgar yn Slofacia nos Fercher, gyda'r tîm cartref yn ennill 3-0.
Bydd y rheolwr Age Hareide hefyd yn dychwelyd ar ôl i gyn-chwaraewr Arsenal, John Jensen, ddewis y tîm ar gyfer y gêm yn Slofacia.
Carfan Cymru'n falch
Dywedodd is-reolwr Cymru, Osian Roberts ei fod yn falch bod y ffrae wedi'i datrys am y tro, a'i fod wedi rhagweld mai dyna fyddai'n digwydd.
"Dyna oedden ni'n disgwyl fyddai'n digwydd a dyna ydyn ni wedi'i ddarparu ar ei gyfer," meddai.
"Oedden ni eisiau chwarae eu tîm gorau nhw, felly 'da ni'n hynod o blês fod yr amheuon hynny wedi diflannu."
Carfan Denmarc i herio Cymru
Kasper Schemichel (Caerlŷr), Frederik Ronnow (Frankfurt), Jonas Lossl (Huddersfield), Simon Kjaer (C) (Sevilla), Andereas Christianesen (Chelsea), Nicolai Boilesen (FC Copenhagen), Jens Stryger Larsen (Udinese), Jannik Vestergard (Southampton), Mathias Jorgensen (Huddersfield), Henrik Dalsgaard (Brentford), Jonas Knudsen (Ipswich), Christian Eriksen (Tottenham Hotspur), Lasse Schone (Ajax), Thomas Delaney (Dortmund), Viktor Fischer (FC Copenhagen), Pione Sisto (Celta Vigo), Mike Jensen (Rosenborg), Lukas Lerager (Bordeaux), Anders Christiansen (Malmo), Christian Norgaard (Firoentina), Martin Braithwaite (Middlesbrough), Andreas Cornelius (Bordeaux), Yuusuf Poulsen (Leipzig).
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Medi 2018
- Cyhoeddwyd4 Medi 2018
- Cyhoeddwyd6 Medi 2018