Rhif 6: 'Gŵyl sy'n gwneud corau meibion yn cŵl'

  • Cyhoeddwyd

Cynhaliwyd Gŵyl Rhif 6 ym Mhortmeirion dros y penwythnos, ac er i drefnwyr yr ŵyl gyhoeddi ym mis Gorffennaf mai dyma'r un olaf "am y tro", roedd gŵyl eleni yr un mor "hudolus" ag erioed, yn ôl yr adolygydd Caryl Bryn.

Ffynhonnell y llun, Caryl Bryn

Ymlwybro o Eisteddfod ddi-fwd yng Ngaerdydd i Ŵyl Rhif 6 ym Mhortmeirion a wnes y flwyddyn hon, â'r cyffro arferol ac ychydig o dristwch, am mai hon fydd yr ŵyl olaf o'i math am ychydig o flynyddoedd.

Mae pris tocyn mynediad i Ŵyl Rhif 6 yn gostus ac mae disgwyliadau pobl o'r ŵyl yn fawr o'r herwydd - ond dydw i byth yn cael fy siomi ganddi.

Mae gweld pawb yn eu gwisgoedd lliwgar yn dod at ei gilydd i fwynhau arlwy eang o gerddoriaeth a digwyddiadau yn hudolus ac, wrth gwrs, mae hi'n cael ei chynnal mewn lleoliad arbennig hefyd.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

Gwisgoedd lliwgar a sgdiau glaw... efallai nad oedd mwd yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni ond roedd agen y wellies ym Mhortmeirion!

Hyfryd yw gweld pobol o bob cwr o'r byd yn dod i Bortmeirion i brofi'n hiaith a'n diwylliant. Sawl tro rwy' wedi darllen sylwadau gan bobol yn nodi'u pryder ynghylch Cymreictod Gŵyl Rhif 6, ond y llynedd rwy'n cofio bod mewn gweithdy cynganeddu a gynhaliwyd gan Elis Dafydd a Gruffudd Antur ac yna rhuthro i weld Rag'n'Bone Man.

A'r un fath y flwyddyn hon, gweithdy cynganeddu gyda Twm Morys a Gwyneth Glyn ac yna, un o'm huchafbwyntiau, sef gweld Geraint Jarman yn perfformio ar y prif lwyfan.

'Un o uchafbwyntiau fy mlwyddyn'

Mae naws hudolus i'r ŵyl o'r funud yr ydych chi'n ymlwybro trwy'r coed â'r goleuadau bach sydd drostynt. Ond mae sefyll mewn torf liwgar o bobl yn neidio i guriadau'r llwyfan yng nghanol y glaw trwm (a neb yn cwyno dim amdano!) yn crisialu beth yw'r ŵyl i mi. Llwyfan i artistiaid ifanc a'r profiadol o Gymru a thu hwnt i arbrofi, a man hyfryd i'w dathlu.

Mae'n biti mawr iawn na fydd yr ŵyl hon yn dychwelyd i Bortmeirion y flwyddyn nesaf. Mae hi'n un o uchafbwyntiau fy mlwyddyn i, lle y daw ffrindiau at ei gilydd i brofi arlwy eang iawn o gerddoriaeth a digwyddiadau unigryw ac mi fydd hi'n chwith iawn dros benwythnos cyntaf Medi'r flwyddyn nesaf.

Pa gyfle a gawn ni eto, i ddawnsio i guriadau cerddoriaeth house yng nghanol coed a phawb yn fud, yn wên o glust i glust yn un â'r gerddoriaeth... a pha gyfle cystal a gaiff y DJ ifanc hwnnw i arddangos ei gerddoriaeth newydd?

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

Y dorf yn gwylio Côr y Brythoniaid ym Mhortmeirion

Yn ddi-os, mae ymdrechion y trefnwyr i gadw safon yr ŵyl yn anodd a diolch byth fod si bod yr ŵyl yn bwriadu dychwelyd, yn un llai.

Efallai y byddai'n syniad cynnal yr ŵyl dros gyfres o benwythnosau drwy gydol y flwyddyn gan obeithio y byddai'r safon yr un fath â'r blynyddoedd diwethaf.

Mae Portmeirion yn llwyfan sydd yn barod i'w ddefnyddio ac mae gweld Côr y Brythoniaid yn y pentref yn profi hynny. Gŵyl fel hon sydd yn gwneud corau meibion yn cŵl. Roedd miloedd ar filoedd o bobl yn cyd-ganu Skin gan Rag'n'Bone Man gyda'r côr y flwyddyn hon a Phortmeirion dan ei sang.

Mi fydd colled mawr ar ôl Gŵyl Rhif 6 os na ddaw hi'n ei hôl i Bortmeirion.

Rwy'n gobeithio'n fawr y gwnaiff hi ddod yn ei hôl mewn tameidiau bychan o'r un safon a'r gwyliau blaenorol, cyn gynted a fo'n bosib!