Ffrae Aelodau Seneddol dros sylwadau 'gwrth-Seisnig'

  • Cyhoeddwyd
Jonathan Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Cyhuddodd Alun Cairns Jonathan Edwards o fod yn wrth-Seisnig

Mae un o aelodau seneddol Plaid Cymru wedi galw ar Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, i dynnu ei sylwadau'n ôl, wedi iddo'i gyhuddo o fod yn "wrth-Seisnig".

Fe ddaeth sylwadau Mr Cairns wrth ymateb i feirniadaeth Jonathan Edwards o'r cynllun "Pwerdy Gorllewinol" - cynllun i geisio datblygu cysylltiadau busnes rhwng de ddwyrain Cymru a de orllewin Lloegr wedi i dollau'r ddwy bont dros afon Hafren ddod i ben.

Yn ôl Mr Edwards - sy'n honni fod y strategaeth yn brawf o ddirmyg Mr Cairns tuag at Gymru - mae'r sylwadau'n warthus.

Honnodd Mr Cairns nad oedd Mr Edwards eisiau i bobl gael mwy o gyfleoedd am swyddi.

Mae disgwyl i dollau'r pontydd ddod i ben erbyn diwedd 2018.

'Rhannu arbenigedd'

Fe amlinellodd Mr Cairns gynlluniau strategaeth y Pwerdy Gorllewinol mewn araith yng Nghasnewydd ddydd Llun.

Galwodd ar gwmniau o dde Cymru a de orllewin Lloegr i ddod ynghyd i rannu eu harbenigedd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jonathan Edwards fod sylwadau Alun Cairns yn warthus

"Rhaid sicrhau newid real yn y ffordd y mae busnesau y ddwy ochr i bont Hafren yn cydweithio wedi i'r tollau ddod i ben," meddai Mr Cairns.

"Dwi i ddim yn dweud y dylai un ddinas arwain - ond yn hytrach casgliad o ddinasoedd, cymunedau a busnesau - gyda'i gilydd mi allant arwain y byd."

Mynnodd Mr Edwards, Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, y dylai Mr Cairns "edrych ar fap, am fod gorllewin y wlad - y wlad mae e i fod i'w chynrychioli - ddim unman yn agos i Fryste a Chaerfaddon".

"Dyw dirmyg Ysgrifennydd Gwladol tuag at Cymru erioed wedi bod mor amlwg," meddai yn y Western Mail.

"Dylai gwleidyddion sy'n cynrychioli'n gwlad ganolbwyntio ar greu pwerdy Cymreig, yn hytrach na chredu mai dim ond o'r tu hwnt i'r ffin y gellir datrys problemau Cymru."

Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i dollau pontydd Hafren ddod i ben ddiwedd 2018

Wrth ymateb, dywedodd Mr Cairns: "Pam mae e eisiau gwadu'r cyfle i rywun sy'n byw yn ne ddwyrain Cymru ddenu buddsoddiad a chyfle am waith dros y ffin, neu wadu'r cyfle i ddenu gwaith a sgiliau?"

"Byddwn i'n gofyn i Jonathan a fyddai'n dangos yr un agwedd petai'r bartneriaeth rhwng de orllewin Cymru a Gweriniaeth Iwerddon? Dwi'n amau hynny.

"Dwi'n amau fod hyn i'w wneud â bod yn wrth-Seisnig."

Yn ddiweddarach, ysgrifennodd Mr Edwards nad oedd "bod yn awyddus i greu strategaeth economaidd benodol Gymreig yn wrth-Seisnig, Alun Cairns".

"Fe ddylech chi dynnu'ch sylwadau gwarthus yn ôl," ysgrifennodd ar Twitter.

Mae Swyddfa Cymru wedi cael cais i wneud sylw.