Teyrnged teulu wedi gwrthdrawiad angheuol ar yr A465

  • Cyhoeddwyd
Lewis PoppFfynhonnell y llun, Teulu Lewis Popp

Mae teulu dyn ifanc gafodd ei ladd mewn gwrthdrawiad angheuol ar yr A465 yn ardal Merthyr Tudful wedi bod rhoi teyrnged iddo.

Dywed teulu Lewis Popp ei fod yn unigolyn "llawn cariad a gofal a'i fod yn llawn bywyd wrth orchfygu unrhyw anawsterau".

Dywed Heddlu De Cymru eu bod yn parhau i ymchwilio i amgylchiadau'r gwrthdrawiad ddydd Sul.

"Am y rhan fwyaf o'i oes fe wnaeth Lewis frwydro yn galed - gyda'i bersonoliaeth yn amlwg yn y frwydr," meddai datganiad ar ran y teulu.

"Roedd yn caru ei deulu a'i gyfeillion. Fe fydd e'n fyw yn ein calonnau a'n meddyliau am byth.

"Roedd yn caru ei fam yn fwy na dim ac roedd ei fam yn ei garu ef."

Mae'r teulu wedi gofyn am breifatrwydd yn ystod eu galar.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Gefn Coed, Merthyr Tudful, am 06:10 fore Sul ar ôl i gar Ford Mondeo llwyd daro yn erbyn dyn.

Mae'r heddlu'n apelio i unrhyw un a oedd yn teithio ar hyd y ffordd rhwng 05:00 a 06:10 bore Sul, ac a welodd y dyn, i gysylltu â nhw.