Dyfais o Gymru i 'drawsnewid' adfywio babanod yn Uganda
- Cyhoeddwyd
Gall dyfais a grëwyd mewn ysbyty yng Nghymru arbed bywydau cannoedd o filoedd o fabanod mewn gwledydd sy'n datblygu.
Mae'r BabySaver, a ddatblygwyd gan yr Athro Andrew Weeks, yn ddyfais blastig syml a gaiff ei ddefnyddio i adfywio babanod heb orfod eu gwahanu o'r fam.
Cafodd y prototeip ei greu gan dîm yn Ysbyty Bryn Y Neuadd, Llanfairfechan, Gwynedd.
Dywedodd yr Athro Weeks: "Rydyn ni wir yn credu y gallai (BabySaver) newid y gêm i deuluoedd ar hyd Uganda, a thu hwnt gobeithio".
Mae pob uned yn costio £40 i'w gynhyrchu - swm llawer llai o gymharu ag unedau adfywio tebyg - ac mae'r Athro Weeks yn gweithio gyda meddygon ac ymchwilwyr yn Uganda i weld os oes modd ehangu defnydd o'r ddyfais ar hyd y wlad.
Mae'r BabySaver, sy'n cynnwys offer fel teclyn sugno a stethosgop, yn cael ei osod rhwng coesau'r fam gan alluogi doctoriaid i drin y plentyn tra bod llinyn y bogel dal yn sownd.
Ar hyn o bryd mae nifer o ysbytai'r DU yn defnyddio dyfais debyg a ddyfeisiwyd gan yr athro Weeks, ond maent yn costio cymaint â $15,000 i'w cynhyrchu.
Mae'r ddyfais, sy'n fwy datblygedig, yn ddibynnol ar drydan - rhywbeth sydd ddim ar gael i filoedd o deuluoedd yn ardaloedd gwledig Uganda.
'Effaith enfawr'
Dywedodd yr Athro Weeks: "Mae tua 6m o fabanod o amgylch y byd angen adfywiad newydd-anedig sylfaenol pob blwyddyn, a bydd tua 900,000 o'r rhain yn marw. Mae mwyafrif y marwolaethau hyn yn digwydd mewn gwledydd incwm isel lle mae diffyg adnoddau adfywio".
"Pan mae adfywio yn digwydd, mae'n aml yn digwydd ar wahân i'r fam, neu hyd yn oed mewn ystafell arall - all achosi trallod.
"Mae'r BabySaver yn galluogi i'r adfywio ddigwydd wrth y gwely, tra bod llinyn y bogel dal yn sownd. Mae cadw'r llinyn yn sownd yn cael effaith enfawr ar iechyd y baban, yn ogystal â gadael i'r fydwraig aros wrth ochr y fam."
Ychwanegodd fod y tîm yn Ysbyty Bryn y Neuadd wedi bod yn "ffantastig" wrth gydweithio ar ddatblygu'r ddyfais.
'Achubwr bywyd'
Yn ôl Dr Kathy Burgoine, pennaeth Uned newydd-anedig ysbyty Mbale, Uganda - lle cafodd y ddyfais ei dreialu - "Mae'n llythrennol yn achubwr bywyd a fydd yn trawsnewid adfywio newydd-anedig yn ein hysbytai a'n cymuned yn ehangach.
Cafodd y prototeip ei lansio yn swyddogol yn Uganda mis Awst, a bydd profion pellach yn digwydd nawr er mwyn coethi ymhellach.
Bydd y fersiwn terfynol yn cael ei gynhyrchu yn Uganda cyn cael ei ddarparu ar hyd y wlad.