Angen 'hyrwyddo celfyddydau Cymru'n well' o amgylch y byd
- Cyhoeddwyd

Yn ôl yr adroddiad, mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn un o asedau diwylliannol Cymru sydd o safon fyd-eang
Mae angen hyrwyddo diwylliant a chelfyddydau Cymru yn well i farchnadoedd rhyngwladol, yn ôl adroddiad.
Comisiynwyd yr adroddiad, Strategaeth Arddangos Celfyddydau Cymru yn Rhyngwladol, gan British Council Cymru (BCC) er mwyn ymchwilio'r ffordd orau i hybu diwylliant Cymru.
Mae'r adroddiad yn archwilio sut mae modd i Gymru sicrhau fod gan artistiaid a sefydliadau diwylliannol gyfle i arddangos eu gwaith i hyrwyddwyr o bob cwr o Brydain a'r byd.
Yn ôl Rebecca Gould, pennaeth celfyddydau BCC: "Mae arddangos yn rhyngwladol yn faes cystadleuol, ac mae angen i Gymru ddod yn fwy gweladwy er mwyn cystadlu ar y llwyfan byd-eang."
Gwahoddwyd 47 cynrychiolwr o sector celfyddydol Cymru i roi eu barn am y cyfleoedd arddangos presennol.
Roedd y meysydd dan sylw yn cynnwys; celfyddydau gweledol, crefftau, cerddoriaeth, theatr, llenyddiaeth, dawns, ffilm, teledu a chyfryngau newydd a'r sector amgueddfeydd.

Roedd yr adroddiad yn cynnwys pum pwynt allweddol:
Mae angen rhagor o fuddsoddiad i ddatblygu arbenigedd a sgiliau arddangos, gan gynnwys sgiliau marchnata, yng Nghymru;
Mae angen i sefydliadau Cymru sy'n gweithio'n rhyngwladol gydweithio, i rannu eu hadnoddau ac i osgoi gorgyffwrdd;
Mae angen mwy o gyfleoedd arddangos yng Nghymru;
Mae angen i Gymru gryfhau ei phresenoldeb mewn digwyddiadau arddangos rhyngwladol mawr;
Mae angen llais celfyddydol rhyngwladol arbennig ar Gymru.

'Anweledig'
Er bod yr ymchwil yn cydnabod fod gan Gymru gynnig celfyddydol "o'r radd flaenaf", prif neges yr adroddiad oedd ei fod yn "rhy dawel" a bod angen iddi fod yn "gliriach ac yn fwy beiddgar".
Disgrifiodd un cyfwelai Cymru fel 'anweledig' yn y maes arddangos rhyngwladol, ac roedd eraill yn cwestiynu pam nad oedd Cymru'n manteisio ar ei dwyieithrwydd.
Dywedodd Ms Gould: "Mae angen dull beiddgar a strategol newydd arnom. Gall eu diwylliant helpu i hyrwyddo Cymru'n rhyngwladol, gan ddatblygu ein cyrhaeddiad a'n dylanwad, wrth godi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth o'r wlad ymhlith cynulleidfaoedd newydd.
"Bydd arddangos yn well yn arwain at sector diwylliannol cryfach ac amlycach i Gymru, ac yn rhoi hwb i fasnach a thwristiaeth ar yr un pryd" meddai.