Rhun ap Iorwerth: Her i arweinyddiaeth Wood yn 'anochel'

  • Cyhoeddwyd
rhun ap iorwerth

Roedd her i Leanne Wood yn anochel, yn ôl un o'r ymgeiswyr ar gyfer arweinyddiaeth Plaid Cymru.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth wrth Newyddion 9 y gallai uno'r blaid a'i miniogi fel peiriant etholiadol.

"Mi fyddai unrhyw un fyddai wedi fy ngweld i ar wyliau gyda'r teulu yn sgwennu erthyglau papurau newydd ar draeth ym mis Awst yn gweld nad oeddwn i wedi cynllunio ymgyrch ar gyfer yr arweinyddiaeth," meddai Mr ap Iorwerth.

"Mi oeddwn i wedi cael trafodaethau gyda chymaint o aelodau ag oeddwn i'n gallu nôl ym mis Mehefin a Gorffennaf.

"Mi ddaeth yr ateb yn glir iawn i fi."

'Adeiladu cynghrair'

Dywedodd fod pobl wedi gofyn iddo gynnig ei hun fel ymgeisydd er mwyn gallu "uno'r blaid" a'i throi yn "beiriant etholiadol siarp".

"Roedd hi'n anochel y byddwn i'n rhoi fy enw yn yr het," meddai.

Yn ôl Aelod Cynulliad Ynys Môn, bydd aelodau Plaid Cymru'n cael y gair olaf ar unrhyw gydweithio gyda phleidiau eraill pe bai'n ennill yr ornest.

Dywedodd: "Dwi yn un sydd yn credu bod angen adeiladu'r gynghrair fwyaf posib o fewn Plaid Cymru.

"Mae angen ymestyn llaw i gymaint o bobl â phosib i greu Cymru yn genedl all sefyll ar ei thraed ei hun.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Adam Price a Rhun ap Iorwerth yn herio Leanne Wood am arweinyddiaeth Plaid Cymru

Ychwanegodd: "Dydw i ddim yn dymuno clymbleidio gyda'r Ceidwadwyr na'r Blaid Lafur.

"Mi fydd yn rhaid i aelodau Plaid Cymru benderfynu ar y math o natur anffurfiol, gobeithio, lle bydd 'na gydweithio'n digwydd gydag un blaid neu ddwy neu fwy i gael y sefydlogrwydd i ni lywodraethu."

Mae'r cyn-newyddiadurwr yn dweud bod angen i Blaid Cymru newid gêr er mwyn gwrthbrofi'r canfyddiad fod y blaid yn parhau i fod yn un i siaradwyr Cymraeg.

Pan ofynnwyd iddo a fyddai Plaid Cymru'n gallu ennill etholiad 2021 gyda Leanne Wood fel arweinydd, dywedodd: "Mae'r neges wedi dod yn glir i mi gan yr aelodau y gallen ni fod mewn sefyllfa llawer cryfach o gael newid."

Bydd y canlyniad y ras arweinyddol, sydd hefyd yn cynnwys Ms Wood ac Adam Price, yn cael ei gyhoeddi ar 28 Medi.