Heddlu'n cadarnhau marwolaeth disgybl ysgol uwchradd

  • Cyhoeddwyd
Ysgol
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ysgol yn ardal Dafen, Llanelli

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau fod disgybl ysgol uwchradd yn Llanelli wedi marw.

Dywed yr heddlu eu bod wedi eu galw i Ysgol Gyfun Gatholig St John Lloyd oherwydd pryder am les un o'r disgyblion.

Dywedodd llefarydd: "Yn anffodus, fe allwn gadarnhau fod y plentyn wedi marw yn yr ysbyty.

"Mae ei deulu wedi cael gwybod ac maent yn derbyn cymorth gan swyddogion arbennig."

Cafodd yr heddlu eu galw gan yr ysgol tua 12:00 ddydd Mercher, ac nid yw'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.

'Amser trist ac anodd'

"Does yna ddim rheswm i rieni eraill bryderu am les eu plant," meddai'r llefarydd.

"Mae ein cydymdeimlad gyda'r teulu a'r ysgol ar yr adeg trist hwn.

"Mae Ysgol St John Lloyd yn cydweithio gyda'r cyngor lleol, yr esgobaeth a Heddlu Dyfed-Powys er mwyn sicrhau bod cefnogaeth i'r staff a'r disgyblion."

Dywedodd Glynog Davies, aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfryddin: "Dymunwn estyn ein cydymdeimladau dwys i'r teulu, cyfeillion a phawb yn Ysgol John Lloyd ar yr amser trist ac anodd hwn.

"Rydym yn cefnogi'r ysgol ym mhob ffordd posib ac yn sicrhau fod cwnselwyr a phobl broffesiynol eraill wrth law i gefnogi staff a disgyblion."