Anelu'n uchel yn Nyffryn Dyfi gyda ras feicio lawr mynydd
- Cyhoeddwyd
Mae yna obeithion y gallai poblogrwydd gynyddol ras feicio mynydd yn ne Gwynedd ddenu rhagor o ddigwyddiadau awyr agored i'r ardal.
Mae ras Red Bull Hardline, sy'n cael ei chynnal am y pumed tro ar lethrau ardal Dinas Mawddwy dros y penwythnos, yn cael ei chydnabod fel un o rasys anoddaf y byd rasio beics lawr mynydd.
Bydd o leiaf 29 o feicwyr mynydd gorau'r byd yn cystadlu gan gynnwys dylunydd y cwrs, Dan Atherton, sy'n byw yn Nyffryn Dyfi.
Mae'r cwrs wedi cael ei ddatblygu ymhellach ar gyfer eleni i wneud y ras yn fwy heriol nag erioed, gan gynnwys naid olaf 65 troedfedd o hyd - yr un maint â phedwar bws dau lawr - cyn cyrraedd y llinell derfyn.
Dywedodd Atherton fod y newidiadau'n sicrhau "yr un cyffro yr holl ffordd i lawr" llethr olaf y ras â heriau rhannau eraill y cwrs, sy'n cynnwys mannau carregog a llwybrau cyfyng yng nghanol y goedwig.
"Mae'r cae olaf yn amffitheatr naturiol anhygoel felly roedd yn gwneud synnwyr i wneud mwy o ddefnydd o hwnnw.
"'Dan ni wedi trio cadw cyflymder yr hen gymal olaf ond 'dan ni wedi codi tair naid anferthol mewn rhes a ddylai rhoi syniad go iawn i'r gwylwyr pa mor gyflym mae'r beicwyr yn mynd."
Mae'r ras yn cael ei darlledu i filoedd o bobl ar draws y byd, ond am resymau diogelwch - ac oherwydd y gofod ar gyfer llefydd parcio - dim ond 2,000 o docynnau sy'n cael eu gwerthu ar gyfer y digwyddiad ei hun.
Dywed Berwyn Hughes, sy'n cadw tafarn y Llew Coch yn Ninas Mawddwy, bod busnes yn well o lawer ar benwythnos y ras
"Mae'n dod â cryn dipyn o bobl fewn yn ychwanegol ar gyfer mis Medi, dim bwys be 'di'r tywydd," meddai.
"Mae dwywaith os nad deirgwaith fwy na be' fysan ni'n arfer neud ar nos Sadwrn o ran pryda' bwyd."
Mae brawd a chwaer Dan Atherton, Gee a Rachel, wedi cyrraedd brig y gamp.
Dywed Rachel, sydd hefyd yn byw yn Nyffryn Dyfi, bod yr ardal yn ddelfrydol ar gyfer y ras - sydd ar gyfer dynion yn unig - ac yn gymorth iddi hi ymarfer.
"Mae gyda chi fynyddoedd mawr, y goedwig, a hyd yn oed y glaw... mae'r cyfan yn cyfuno i greu tir da ar gyfer beicio mynydd," meddai.
"Ers i mi ddod i fyw yng Nghoedwig Dyfi 'dwi 'di ennill y bencampwriaeth byd tair gwaith ac rwy'n teimlo mai'r tir [yma] a'r bobl leol sydd i gyfri am hynny - mae gymaint o gefnogaeth ac angerdd at feicio mynydd."
Dywedodd y cynghorydd sir lleol, John Pugh Roberts, bod angen adeiladu ar lwyddiant y ras a'r berthynas gyda'r teulu Atherton i geisio creu atyniadau a swyddi yn yr ardal.
'Swn i'n licio gweld hwn yn cynyddu," meddai.
"Ma' rhaid i ni ddefnyddio'r Athertons. Ma'r adnodd gyda nhw, felly ma' rhaid i ni ddefnyddio nhw rŵan i wella'r economi yn lleol.
"Mae'r mynyddoedd gyda ni, ma' gynnon ni ffyrdd i'r mynydd. Pam na fedran ni neud tracia' i lawr o'r mynydd... fel sydd mewn ski park."
"Ma' rhaid i ni edrych tu allan i'r bocs efo amaeth ddyddia' ma'... edrych ar dwristiaeth neu unrhyw beth arall sy'n mynd i greu elw i bobl ifanc allu byw yn y gymunedol lleol yna."
"Mae yna fwy o bwyslais ar y math yma o ddigwyddiadau yn dod i mewn i Wynedd ar hyn o bryd," dywedodd rheolwr digwyddiadau Cyngor Gwynedd, Huw Edwin Jones.
"'Dan ni'n siarad am ddigwyddiad arall go fawr yn dod i mewn i Ddolgellau flwyddyn nesa' a gobeithio fydd y digwyddiad yma yn parhau i ddod i Ddinas Mawddwy."