Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 4-1 Ebbsfleet

  • Cyhoeddwyd
WrecsamFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe wnaeth perfformiad awdurdodol yn yr hanner cyntaf sicrhau buddugoliaeth gyfforddus i Wrecsam yn erbyn Ebbsfleet ar y Cae Ras.

Daeth goliau Chris Holroyd, Rekeil Pyke, Stuart Beavon a Shaun Pearson yn y 45 munud agoriadol, gan roi'r canlyniad y tu hwnt i obeithion yr ymwelwyr.

Sgoriodd yr ymwelwyr yn yr ail hanner ond roedd gol Danny Kedwell yn rhy hwyr i wneud unrhyw wahaniaeth.

Mae Wrecsam yn parhau yn yr ail safle, gyda Harrogate sydd ar y brig, yn ennill 2-0 yn Maidstone.