Pro 14: Leinster 52-10 Dreigiau
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth perfformiad cryf gan Leinster yn yr ail hanner eu gweld nhw'n rhoi crasfa 52-10 i'r Dreigiau yn y Pro 14.
Dechreuodd y tîm cartref yn dda gyda chais i Sean Cronin, ond wedyn cafodd nifer o gyfleodd eraill eu gwastraffu.
Yn dilyn penderfyniad hallt i roi Ross Moriarty yn y gell gosb am dacl ar Johnny Sexton, fe wnaeth Josh van der Flier a Jamison Gibson-Park groesi cyn ac yn syth ar ôl yr egwyl.
Llwyddodd Jordan Larmour, Gibson-Park, Tadhg Furlong a Scott Fardy i ymestyn y blwch cyn i Jordan Williams sgorio cais gwych i'r Dreigiau.
Rhedodd o'i linell 10 metr, hyd y cae, cyn sgorio.