Cyngor Conwy: 'Costau uchel pencadlys'

  • Cyhoeddwyd
The new headquarters for Conwy council in Colwyn bayFfynhonnell y llun, Derek Bellis
Disgrifiad o’r llun,

Trethdalwyr fydd yn talu am bencadlys Cyngor Conwy ym Mae Colwyn

Bydd rhent pencadlys Cyngor Conwy yn costio £1.5m y flwyddyn i drethdalwyr am gyfnod o 40 mlynedd.

Costiodd y gwaith o godi'r adeilad ym Mae Colwyn, lle bydd 700 o staff yn cael eu cyflogi, £38.5 miliwn.

Ond bydd disgwyl i drethdalwyr dalu rhent o £58m.

Mae'r manylion wedi cael eu rhyddhau drwy gais Rhyddid Gwybodaeth.

Y tenant yn hytrach na'r perchennog fydd yn talu unrhyw gostau atgyweirio.

'Hwb i'r economi'

Mewn datganiad dywedodd Cyngor Conwy: "Mae'r swyddfeydd newydd ym Mae Colwyn yn cael eu hystyried yn rhai fforddiadwy ac yn cyfrannu i raglen y cyngor o foderneiddio adnoddau i'r cyhoedd a'r staff.

"Mae'r swyddfeydd hefyd yn rhan o raglen adfywio Bae Colwyn ac eisoes ry'n wedi gweld yr economi yn elwa.

"Mae'r cyngor yn rhentu'r adeilad ar les 40 mlynedd ac ar ddiwedd y cyfnod mi all y cyngor brynu'r adeilad am £1."

Dywedodd Janet Finch-Saunders, AC Ceidwadol Aberconwy ei bod wedi'i synnu mai'r cyngor sy'n gorfod talu'r costau atgyweirio.

Ychwanegodd: "Byddaf yn codi'r mater yma gyda Llywodraeth Cymru. Rhaid meddwl mwy am ein trethdalwyr a'n pensiynwyr."