Llys yn clywed fod pâr o'r Barri 'fel Fred a Rose West'
- Cyhoeddwyd
Mae pâr priod o'r Barri, sy'n gwadu cyhuddiadau hanesyddol o dreisio a cham-drin rhyw yn erbyn plant, wedi cael eu disgrifio mewn llys fel "Fred a Rose West".
Mae Avril Griffiths, 61, a Peter Griffiths, 65, wedi'u cyhuddo o gyfres o droseddau rhyw yn y 1980au a'r 90au.
Ddydd Llun fe glywodd y rheithgor yn Llys y Goron Caerdydd dystiolaeth trydydd achwynydd yr achos, sy'n dweud ei bod wedi "torri" ers cael ei threisio gan y cwpl pan oedd hi'n blentyn.
Fe honnodd bod Mr a Mrs Griffiths ag enw drwg yn ardal Y Barri, gan ddweud "os fysach chi'n gofyn wrth y rhan fwyaf o deuluoedd yn Y Barri, fe fyddan nhw'n eu casáu".
'Osgoi eu cartref'
Aeth ymlaen i wneud cymhariaeth â drwg-enwogrwydd Fred a Rose West - y cwpwl o Gaerloyw gafodd eu cyhuddo o gaethiwo a cham-drin 20 o bobl yn rhywiol cyn eu llofruddio.
Cafodd Rose West ei charcharu yn 1995 am lofruddio 10 o ferched ifanc, rhai yn blant, ac fe laddodd Fred West ei hun mewn cell cyn gorfod sefyll ei brawf.
Dywedodd yr achwynydd bod y diffynyddion "fel Fred a Rose West" eu stad dai.
Mae tyst arall wedi dweud wrth y llys bod ei mam wedi gorchymyn iddi osgoi cartref y diffynyddion wrth gerdded trwy'r ardal.
Mae Avril a Peter Griffiths yn wynebu cyhuddiadau o dreisio, ymosod yn anweddus a thynnu lluniau anweddus o blentyn.
'Methu symud, methu siarad'
Yn ôl y trydydd achwynydd, fe wnaethon nhw ymosod arni pan roedd hi yn ei harddegau.
Dywedodd wrth y llys bod Mrs Griffiths yn ei "dal i lawr" tra bod Mr Griffiths yn ei threisio.
"Ar yr adeg honno, doeddwn i ddim yn gallu symud, doeddwn i ddim yn gallu siarad," meddai.
Ychwanegodd ei bod yn teimlo "wedi torri" ers hynny a bod yr ymosodiad wedi amharu ar ei bywyd.
Clywodd y llys ei bod wedi mynd at yr heddlu gyda'i honiadau yn 2015, a'i bod wedi oedi cyn gwneud hynny am ei bod ar ddeall bod y diffynyddion â chysylltiad â'r heddlu, ac yn ofni na fyddai unrhyw un ei chredu.
'Gwisgo i edrych fel hi'
Dywedodd nad oedd yn gwybod sut y daeth i fod mewn gwely gyda'r diffynyddion cyn cael ei threisio, ac mai'r peth olaf yr oedd yn ei gofio oedd yfed o botel gwrw.
Clywodd y llys bod y pâr yn prynu sigaréts ac alcohol i'r ferch cyn yr ymosodiad honedig, a bod Avril Griffiths yn ei gwisgo mewn sgertiau byr a sgidiau sodlau uchel "i wneud i mi edrych fel fersiwn llai ohoni hi".
Ychwanegodd ei bod yn cael ei chludo o amgylch yr ardal yn fan y diffynyddion, a bod yr hyn ddigwyddodd iddi wedi bod yn "corddi tu fewn am flynyddoedd".
Mae Avril a Paul Griffiths yn gwadu'r holl gyhuddiadau yn eu herbyn ac mae'r achos yn parhau.