Cyhuddo Simon Thomas o greu delweddau anweddus o blant

  • Cyhoeddwyd
simon thomas AC

Mae'r cyn-Aelod Cynulliad, Simon Thomas, wedi cael ei gyhuddo o dri achos o greu delweddau anweddus o blant.

Cafodd Mr Thomas, sy'n 54 oed ac o Aberystwyth, ei gyhuddo gan yr heddlu fore Mawrth.

Bydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Aberystwyth ar 3 Hydref.

Fe ymddiswyddodd Mr Thomas o'i waith fel Aelod Cynulliad dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru ym mis Gorffennaf.