Bennett: Dylai UKIP fod yn radical a dweud pethau radical

  • Cyhoeddwyd
Gareth Bennett
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Bennett yw trydydd arweinydd UKIP yng Nghymru eleni

Dylai UKIP "fod yn radical a dweud pethau radical" ar ôl Brexit, yn ôl arweinydd y blaid yn y Cynulliad.

Cynhadledd UKIP ddydd Gwener fydd y cyntaf i Gareth Bennett ei mynychu ers cael ei ethol yn arweinydd ym mis Awst, a hynny wrth i'r blaid ddathlu ei phen-blwydd yn 25.

Daw ei alwad am radicaliaeth ar ôl iddo ddweud bod y Prif Weinidog Carwyn Jones wedi "colli cysylltiad â barn y bobl", a hynny ar ôl i Mr Jones ddweud bod sylwadau Mr Bennett ar wisgo burkha yn "hiliol".

Bydd Mr Bennett yn annerch y gynhadledd yn Birmingham ddydd Sadwrn, ar banel gydag arweinwyr y blaid o'r Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae disgwyl iddo ailadrodd ei alwad i ddiddymu'r Cynulliad - rhan ganolog o'i ymgyrch i fod yn arweinydd.

Gerard Batten
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Gerard Batten hefyd yn annerch y gynhadledd yn Birmingham ddydd Gwener

Mr Bennett, AC dros Ganol De Cymru, yw trydydd arweinydd UKIP yn y Senedd eleni.

Cafodd ei ethol yn lle Caroline Jones AC yn yr haf.

Mae Ms Jones bellach wedi gadael y blaid a chyhuddo Mr Bennett ac eraill o symud y blaid i'r asgell "dde eithafol".

Mae Ms Jones, wnaeth gymryd lle Neil Hamilton AC fel yr arweinydd ym mis Mai, bellach yn Aelod Cynulliad annibynnol.

Ar y llaw arall, mae Neil Hamilton wedi parhau'n aelod o'r grŵp UKIP gyda Mr Bennett, Michelle Brown a David Rowlands.

Mae'r grŵp gwreiddiol o saith aelod UKIP wedi lleihau i bedwar yn dilyn ymadawiad Ms Jones a dau AC arall; Mark Reckless a Mandy Jones.

Hefyd yn annerch y gynhadledd ddydd Gwener fydd Mr Hamilton, gydag araith dan y teitl "Y byd wedi mynd yn wallgof", yn ogystal ag arweinydd Prydeinig y blaid, Gerard Batten.