Dementia ymhlith cyn-bêl-droedwyr yn 'broblem fawr'

  • Cyhoeddwyd
Jeff AstleFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Marwolaeth Jeff Astle (dde) yn 2002 oedd un o'r achosion cyntaf a ddaeth a'r mater o ddementia ymysg pêl-droedwyr i lygaid y cyhoedd

Mae seiciatrydd o dde Cymru wedi cyhuddo'r awdurdodau pêl-droed o anwybyddu'r cysylltiad posib rhwng chwarae'r gêm a datblygu dementia.

Dechreuodd Dr Don Williams astudio achosion o ddementia ymhlith cyn-chwaraewyr yn yr 80au, ac ers hynny mae wedi ymgyrchu i ddod â sylw ehangach i'r mater.

Yn ôl Dr Williams does "dim amheuaeth fod yna broblem fawr" yn bodoli.

Dywed y Gymdeithas Bêl-droed (FA) fod yr ymchwil hyd yma yn amhendant, ond eu bod yn benderfynol o ddeall y peryglon posib yn llawn.

Diwedd penio'r bêl?

Mae Dr Williams o'r farn y dylai plant yng Nghymru roi'r gorau i benio'r bêl, gan na ddylai'r ymennydd fod yn derbyn trawma o'r fath yn gyson.

Dechreuodd y meddyg o Abertawe ymchwilio i ddementia mewn chwaraewyr ar ôl i fab un o'i cyn-gleifion holi os oedd cysylltiad posib rhwng cyflwr ei dad, a'i gefndir fel pêl-droediwr.

Mae'r astudiaethau ers hynny wedi cynnwys monitro 14 cyn-chwaraewr gyda dementia, a chyhoeddi adroddiad gyda'r darganfyddiadau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Don Williams am i blant roi'r gorau i benio'r bêl oherwydd perygl o drawma cyson i'r ymennydd

Dywedodd Dr Williams: "Dylai'r cyhoedd wybod fod yna risg, a bod yna broblem yn bodoli."

Ychwanegodd: "Does neb yn credu y byddai taro ffôn symudol yn rheolaidd ddim yn niweidio'r ffôn, a dwi'n meddwl fod yr un peth yn gorfod bod yn wir am yr ymennydd."

'Ddim yn gwneud digon'

Mae'r Cymro Wyn Davies yn gyn-chwaraewr pêl-droed proffesiynol sydd hefyd yn galw am fwy o ymchwil gan awdurdodau'r gêm.

Fe gynrychiolodd Davies ei wlad 34 o weithiau yn ystod ei yrfa, wrth serennu i rai o glybiau mwyaf adnabyddus y gêm gan gynnwys Manchester United, Newcastle a Manchester City.

Dywedodd Davies mai'r broblem yw bod yna dal ddim tystiolaeth o'r cysylltiad rhwng penio'r bêl a dementia.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Wyn Davies (chwith) yn gyn-chwaraewr Manchester United, Newcastle United a Chymru

Mae'n cydnabod ei bod hi'n anodd dweud os mai cyd-ddigwyddiad yw'r achosion hyn o'r salwch, ynteu rhywbeth ehangach, ond mae'n erfyn ar yr awdurdodau i wneud mwy o ymchwil.

Er fod Davies yn poeni am iechyd chwaraewyr ifanc, oherwydd yr ansicrwydd presennol, dydy o ddim yn cefnogi rhwystro plant rhag penio'r bêl yn gyfan gwbl ar hyn o bryd gan ei fod yn "ran o'r gêm".

'Canlyniadau amhendant'

Mae astudiaeth newydd ar y cysylltiad rhwng penio'r bêl a niwed i'r ymennydd eisoes wedi dechrau yn gynharach eleni.

Cymdeithas y Pêl-droedwyr Proffesiynol (PFA) sydd yn gyfrifol am ariannu'r astudiaeth, ar y cyd gyda'r FA.

Ar ôl datgan fod darganfyddiadau astudiaethau blaenorol yn annigonol, cadarnhaodd y gymdeithas mai'r astudiaeth nesaf fydd un o'r rhai mwyaf cynhwysfawr i gael eu comisiynu yn y maes.

Yn ôl llefarydd ar ran y PFA mae'r undeb eisoes yn darparu cyngor a chefnogaeth i gyn-chwaraewyr sy'n dioddef o'r cyflwr hwn a phroblemau iechyd eraill.

Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru fod iechyd hir dymor chwaraewyr pêl-droed o'r pwys mwyaf.

Mae'r gymdeithas yn cydfynd â'r consensws fod darganfyddiadau astudiaethau yn amhendant hyd yn hyn, a bod angen ymchwilio ymhellach er mwyn cryfhau dealltwriaeth.

Bydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn cyhoeddi canllawiau eu hunain ar sut i ddelio â chyfergyd, a fydd ar gael i holl glybiau Cymru cyn dechrau tymor nesaf.il.