Cymro'r Rhyfel Mawr a laddwyd gan y Barwn Coch

  • Cyhoeddwyd
Tom Rees a llun o awyren F.E.2b, debyg i'r un y byddai wedi bod ynddi pan gafodd ei laddFfynhonnell y llun, Getty/Wikipedia

Ym mis Medi 1916 bu farw Cymro Cymraeg ifanc mewn brwydr awyr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Roedd Tom Rees o Ddefynnog ger Pontsenni yn swyddog a wasanaethodd yn y Royal Flying Corps, ac roedd yn 21 mlwydd oed pan gafodd ei ladd.

Un o'r pethau arwyddocaol am ei farwolaeth oedd mai fo oedd y cyntaf i gael ei ladd gan y Barwn Coch (Manfred von Richthofen).

Mae von Richthofen yn cael ei ystyried yn un o'r awyrenwyr rhyfel enwocaf erioed, a enillodd dros 80 brwydr yn yr awyr.

Daeth Rees yn gapten ar ddiwrnod ei farwolaeth, a bu farw ar 17 Medi 1916 wrth hedfan fel arsyllwr mewn awyren F.E.2b.

Cysylltodd Iwan Hughes, athro yn Ysgol Maes Garmon, yr Wyddgrug, â Radio Cymru, i sôn am y Cymro ifanc wedi iddo dreulio blynyddoedd yn ymchwilio i'r hanes.

Bu'n trafod ei stori ar raglen Aled Hughes.

"Y Barwn Coch oedd y peilot 'nath saethu lawr y nifer fwya' o awyrennau yn ystod y rhyfel byd cyntaf. Roedd o'n cael ei alw'r 'Barwn Coch' achos oedd mi roedd o'n farwn, ac roedd ei awyren o'n goch i gyd," meddai Iwan Hughes.

"Dwi wedi bod yn ymddiddori yn yr hanes ers degawdau, ers o'n i'n hogyn bach.

"Yn bron bob llyfr o'n i'n dod ar ei draws roedd Tom Rees yn cael ei gyfeirio ato fel Sais.

"Felly 'nes i benderfynu un noson 'Duw nai drio ffeindio allan ei hanes'. Mi ddois yn gyfeillgar efo'r teulu a dwi 'di bod yn ffodus iawn i gael bach mwy o'i hanes.

'Mab fferm'

"Roedd o'n dod o fferm o'r enw Cefn Brynich, o'r de i Aberhonddu ger pentref Defynnog," meddai Iwan.

"Roedd o'n Gymro Cymraeg ac mae'r ardal lle gafodd ei fagu'n parhau i fod yn Gymraeg iawn.

"Myfyriwr oedd o yng Ngholeg Aberystwyth. Roedd o eisiau ymuno a'r fyddin ond roedd y teulu yn dweud wrtho 'na ti ddim yn cael mynd nes bod ti'n graddio'. Felly'n syth wedi iddo raddio yn 1915 dyma fo'n ymuno â'r ffiwsilwyr Cymreig, ac yna fe aeth ymlaen wedi naw mis yn y ffosydd i Royal Flying Corps, sef fersiwn gwreiddiol yr awyrlu (Yr RAF).

"Ei waith yn bennaf oedd hedfan uwchben y ffosydd gan dynnu lluniau efo camerâu, ond mi roedd o mewn awyren reit arbennig, yr F.E.2b lle'r oedd y propelor tu ôl i'r peilot, ac mi fysa Tom 'di bod yn eistedd o flaen y peilot ac yn cael ei wthio drwy'r awyr gyda rhyw un gwergys yn gafael ynddo fo rownd ei ganol.

"Os fysa 'na awyren yn ymosod arnyn nhw o'r cefn byddai rhaid iddo agor ei wregys a sefyll a gafael yn y gwn oedd yn gorwedd uwchben y peilot, a saethu am yn ôl hyd yn oed os oedd yr awyren yn troi bob ffordd yn trio osgoi bwledi roedd rhaid iddo afael yn dynn a saethu.

"Mynd mewn criw o awyrennau oedd o a oedd yn amddiffyn awyrennau eraill a oedd yn bomio gorsaf rheilffordd. Ond yn anffodus iddyn nhw fe ddaethon nhw ar draws squadron y Barwn Coch.

Ffynhonnell y llun, Imagno
Disgrifiad o’r llun,

'Y Barwn Coch', Manfred von Richthofen, a fu farw mewn brwydr awyr yn Ffrainc ym mis Ebrill 1918

Mae adroddiadau bod von Richthofen wedi mynd i dalu teyrnged i Tom Rees wedi'r frwydr.

Esboniodd Iwan: "Doedd y Barwn Coch heb saethu'r un awyren i lawr yn swyddogol eto, felly pan wnaeth o ymosod ar yr awyren yma a llwyddo i'w chael hi lawr fe blymiodd yr awyren.

"Dyn 19 oed, Lionel Morris oedd yn hedfan yr awyren (awyren Tom Rees) ac mae'n debyg bod Rees a Morris wedi eu clwyfo yn yr awyr, gydag anafiadau Rees dipyn gwaeth. Llwyddodd Morris i lanio'r awyren mewn maes awyr Almaeneg, ac fe laniodd y Barwn Coch yn agos iddyn nhw gan redeg ar draws y cae er mwyn cael y dystiolaeth ei fod o wedi saethu'r awyren i lawr.

"Yn ôl bob sôn fe wnaethon nhw godi Rees a'i lusgo o'r awyren ac yn ôl bob sôn fe agorodd ei lygaid am funud a hanner gwenu cyn marw, ond fe gludwyd Morris mewn ambiwlans."

Roedd y tri yn ifanc iawn ar y pryd, Tom Rees yn 21, Morris yn 19 a'r Barwn Coch yn 22 oed.

Cydnabyddiaeth wedi ei farwolaeth

"Ar ddiwedd y rhyfel fe gafodd Tom Rees fedal, felly cafodd o ddim y fedal ei hun. Rhyw ychydig dros ddegawd yn ôl fe aeth ei fedalau i ocsiwn gan gael ei gwerthu am £4,500.

"Peth arall oedd yn drist am Tom Rees oedd y ffordd wnaeth y teulu ffeindio allan ei fod wedi marw. Roedden nhw'n gwybod bod ei awyren wedi mynd i lawr ond roedden nhw'n meddwl ei fod wedi cymryd yn garcharor.

"Roedd David John, brawd mawr Tom am briodi. Aeth i'r cae at goeden onnen i dorri cangen i wneud trol briodasol. Ond fe ddisgynnodd y goeden ar ei ben o a'i ladd o.

"Ar ddiwrnod angladd David John, fe gafodd y teulu wybod bod Tom hefyd wedi marw. Mae'n stori drist, ac mi ges i lawer o'r hanes gan Mrs May Jones, merch i chwaer fawr Tom."

Wedi sgwrs Iwan Hughes ar Radio Cymru mae tudalen yn Gymraeg am Tom Rees bellach ar dudalennau'r Wikipedia Cymraeg., dolen allanol

Efallai o ddiddordeb:

Mwy o straeon y Rhyfel Mawr