'Angen ailgyflwyno' cynllun difa moch daear

  • Cyhoeddwyd
Buwch yn cael ei brechu yn erbyn TBFfynhonnell y llun, UAC
Disgrifiad o’r llun,

Buwch yn cael ei brechu yn erbyn TB

Dylid ailddechrau difa moch daear yng Nghymru i atal lledaenu'r diciâu mewn gwartheg, medd ffermwyr Cymru.

Mae canlyniadau o ddwy ardal yn Lloegr sydd wedi bod yn difa moch daear yn dangos bod nifer yr achosion o'r diciâu (TB) wedi disgyn.

Yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) mae'r ffigyrau yn brawf mai difa yw'r ffordd orau o atal y clefyd.

Mae ymgyrchwyr yn erbyn difa yn dadlau bod yr arfer yn aneffeithiol ac yn greulon.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud nad moch daear yw'r prif reswm am achosion newydd o'r haint.

Ar 13 Medi cyhoeddodd Defra (adran amaeth Llywodraeth y DU) fod achosion newydd o'r diciâu mewn gwartheg wedi lleihau mewn dwy ardal lle bu moch daear yn cael eu difa rhwng 2013 a 2016.

Yn Sir Gaerloyw fe wnaeth canran yr anifeiliaid oedd â'r diciâu ddisgyn o 10.6% yn 2013 i 5.6% yn 2016. Yng Ngwlad yr Haf bu cwymp o 24% i 12% dros yr un cyfnod.

Mae'r cynllun difa yn Lloegr nawr wedi cael ei ymestyn i 11 ardal, gyda'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n cael eu hystyried yn rhai sydd â risg uchel o achosion o'r diciâu.

Yn 2012 fe wnaeth Llywodraeth Cymru roi'r gorau i gynllun difa moch daear, gan ddewis yn hytrach droi at raglen frechu gwartheg.

Yna yn 2016 daeth cyhoeddiad am ddull newydd oedd yn cyfuno trapio a difa moch daear oedd wedi'u heintio gyda mesurau eraill oedd yn cynnwys profion mwy manwl ar wartheg.

Yng ngoleuni'r canlyniadau diweddaraf o Loegr, fe ddywed UAC y dylid dileu'r dull presennol ac ailgyflwyno cynllun difa.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ffermwyr Cymru 'wedi cael digon'

Dywedodd UAC fod mwy na 10,000 o wartheg wedi cael eu difa oherwydd y diciâu yng Nghymru yn 2017 - cynnydd o 2.3% ar y flwyddyn flaenorol.

Y cyferbyniad i hynny, medd yr undeb, yw mai dim ond pum mochyn daear sydd wedi cael eu difa ers i'r cynllun mwyaf diweddar ddechrau yng Nghymru yn 2016.

Dangosodd adroddiad ym mis Gorffennaf fod difa'r pump wedi costio £380,000.

Dywedodd Ian Lloyd, Cadeirydd Pwyllgor Lle ac Iechyd Anifeiliaid UAC: "Mae canlyniadau'r adroddiad ynghyd â methiant Llywodraeth Cymru i daclo'r clefyd yn dangos fod cynllun dileu TB Cymru wedi colli cyfeiriad.

"Mae'r diwydiant gwartheg yng Nghymru wedi cael digon ac mae Undeb Amaethwyr Cymru nawr yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod effaith y clefyd llechwraidd yma ar deuluoedd amaethyddol."

'Cydymdeimlad'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn gwrthod cynllun difa tebyg i un Lloegr, gan ychwanegu:

"Mae'r dystiolaeth yn dangos fod mwyafrif yr achosion o TB mewn gwartheg yng Nghymru yn tarddu o ymlediad o fuwch i fuwch.

"Mae moch daear yn cael eu trapio a'u profi dim ond pan mae tystiolaeth i awgrymu eu bod yn cyfrannu at bresenoldeb TB mewn gwartheg.

"Mae targedu ymyrraeth fel hyn yn helpu i atal lledu'r haint a difa gyrroedd o wartheg sydd wedi'u heintio - rhywbeth sy'n gostus i'r trethdalwyr a'r diwydiant."

Dywedodd yr RSPCA fod ganddyn nhw gydymdeimlad gyda ffermwyr gwartheg, roedd difa yn greulon a bod gwelliant wedi ei wneud o safbwynt dileu TB yng Nghymru.

"Cafodd y cynllun i ddileu'r diciâu ond ei lansio gan Lywodraeth Cymru yn Hydref 2017, ac mae angen amser i fesur a gwerthuso elfennau newydd y cynllun.

"Rydym wedi parhau i annog pob llywodraeth i wella rheoli lles gwartheg, parhau i brofi yn aml, gwella bio-ddiogelwch, brechu moch daear a datblygu brechlyn i wartheg - mae'r elfennau yna i gyd yn allweddol wrth geisio delio gyda'r diciâu mewn gwartheg."